Paratoi ar gyfer Bedydd
Mae helpu teuluoedd i baratoi ar gyfer bedydd yn fwy na dim ond ymarfer ar gyfer y diwrnod. Waeth a ydych chi’n cyfarfod am un sesiwn yn unig neu sawl gwaith, mae yna nifer o syniadau da i sicrhau bod y bedydd yn gychwyn taith oes o ddarganfod ffydd yn y cartref a chyda’u teulu newydd yn yr eglwys.
Yn aml, mae teuluoedd yn poeni llawer am elfennau ymarferol y dydd, yn pryderu ble i sefyll a beth i’w wneud, ac am osgoi teimlo cywilydd. Mae cynnal ymarfer yn ffordd dda o sicrhau bod y cwestiynau hyn yn cael eu hateb. Bydd y rhieni hynny sydd wedi priodi mewn eglwys yn gyfarwydd â’r syniad hwn, a gall fod yn gyfle gwych i gyfarfod eraill a gweddïo gyda’r teulu cyn y diwrnod.
Ond mae angen i baratoi am fedydd fod yn fwy nag ymarfer.
Mae’n syniad da helpu rhieni i feddwl pam maen nhw wedi dewis bedyddio eu plentyn. Ystyriwch rai o draddodiadau eu teulu, eu profiadau nhw o ffydd, boed drwy’r ysgol, clybiau eglwys neu’r eglwys ei hun. Siaradwch am eu hatgofion cadarnhaol a pham eu bod eisiau hyn i’w plentyn.
Cofiwch fod ffrindiau a theulu’n bwysig, felly cymerwch amser i ddysgu rhywbeth am eu rhwydweithiau, a chofiwch siarad am rieni maeth a’r rhinweddau y disgwylir iddyn nhw eu cael.
Gall hyn arwain at drafodaeth am ba werthoedd sy’n bwysig iddyn nhw, sy’n agor y posibilrwydd o sgwrs am ba wahaniaeth fydd dewis gwerthoedd Cristnogol yn ei wneud iddyn nhw fel teulu.
Mae rhieni am wybod pethau ymarferol hefyd felly ceisiwch roi rhai syniadau penodol am weddïo gyda a thros blentyn, pa straeon i’w darllen o’r Beibl, sut i helpu plant pan fo bywyd yn mynd o chwith, neu pan maen nhw’n gwneud rhywbeth o’i le. Siaradwch am sut mae’ch eglwys yn cynnwys plant ac yn eu helpu ar eu taith ffydd, gan eu haddysgu bod Duw cariadlon yno iddyn nhw bob amser.
Bydd gan bob eglwys, plwyf neu Ardal Weinidogaeth/Ardal Genhadaeth ei dulliau ei hun o baratoi ar gyfer bedydd ac efallai y bydd gan eich esgobaeth ganllawiau a syniadau, ond dyma rai enghreifftiau o’r adnoddau sydd ar gael:
- We Welcome You (ISBN 9780715147221) - cwrs parod tair rhan sy’n helpu i baratoi rhieni a rhieni bedydd sy’n cyflwyno plant i gael eu bedyddio. Mae yna DVD sy’n cyd-fynd â’r cwrs, sy’n egluro beth sy’n digwydd mewn gwasanaeth bedydd i deuluoedd.
- First Steps – DVD gan CPAS
- My Baptism book – addas ar gyfer plant 2-5 oed
- Timothy Bear and the baptism box