Darllen gwybodaeth am yr ymgeisydd mewn bedydd
Rwy’n gwahodd rhieni i ysgrifennu paragraff byr am eu plentyn yn seiliedig ar ei bersonoliaeth. Yn aml iawn mae rhieni’n ychwanegu manylion arwyddocaol am sut mae eu bywydau, a datblygiad perthynas rhwng brodyr a chwiorydd, wedi newid gyda dyfodiad y plentyn hwn i’w teulu.
Fe fyddaf i’n ei ddarllen neu mae’r rhiant yn ei ddarllen os yw’n teimlo’n ddigon cyffyrddus i wneud hynny. Mae’n ffordd rymus iawn o bersonoleiddio’r bedydd i bawb.
Anhysbys