‘Refresh’: ffordd o wahodd teuluoedd yn ôl i’r eglwys
Mae tua 60 o deuluoedd y flwyddyn yn dod â’u plant i’w bedyddio yn ein heglwys. Fodd bynnag, tan yn ddiweddar iawn ychydig oedd yn dychwelyd i’r eglwys. Yna, dechreuodd ein curad ‘Refresh’, sef cyfarfod ar brynhawn Sul lle mae’r gofod yn cael ei ad-drefnu fel ei fod yn fan croesawgar i deuluoedd â phlant ifanc.
Mae’r cyfarfod yn dilyn trefn sy’n cynnwys straeon o’r Beibl, gweddïau a lle i fyfyrio ynghyd ag amser i ymlacio wrth rannu bwyd a diod. Dros y misoedd diwethaf mae’r sesiwn wedi dechrau gyda stori o’r Beibl gyda meic agored i blant a rhieni drafod ei ystyr. Nid darllen darn o’r Beibl a wnawn ni, rydym yn adrodd y stori ac yn gofyn wedyn ‘ble mae’r doethineb yma?’ ac yn gofyn i’r plant - a’r rhieni - am eu barn. Er enghraifft, os ydym yn trafod stori Jona a’r morfil, byddwn yn gofyn ydych chi wedi teimlo’n gaeth, neu wedi osgoi penderfyniad anodd ar ryw adeg yn eich bywydau. Pa ddoethineb allwn ni ei gymryd o’r stori hon i’w ddefnyddio yn ein bywydau ni? Yna, mae gennym ni fwrdd sialc lle rydym yn annog pobl i roi eu ceisiadau am weddïau - mae pobl yn ysgrifennu eu gweddïau ac rydym ni’n gweddïo drostyn nhw. Efallai y byddan nhw’n ysgrifennu gair neu enw aelod o’r teulu - beth bynnag maen nhw’n ei roi, rydym yn gweddïo am hyn.
Roedd 52 yn bresennol yn y sesiwn ddiwethaf, yn cynnwys 32 o blant. Roedd yna naw o deuluoedd bedydd yno, sydd ddim yn mynychu’r eglwys nac yn dod i’n cyfarfodydd eraill ac yn bobl sydd wedi bod y tu allan i’n cymunedau addoli cyfredol. Mae’n gyffrous iawn eu gweld yn mwynhau gofod yr eglwys ac yn cydaddoli.
Sid Bridges