Gwasanaethau Diolchgarwch
I rai teuluoedd, y gwasanaeth diolchgarwch fydd y lle cywir i gychwyn ar eu taith ffydd. Gall ddigwydd ochr yn ochr â bedydd, yn ystod cyfnod cynnar cyswllt â theulu, neu fel achlysur llawen ynddo’i hun. Mae’n gyfle gwych i gynnal dathliad arbennig, cyfle i fod gyda theulu a ffrindiau a gweddïo dros blentyn. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cyfleoedd a’r gwasanaeth.
Mae Gwasanaeth Diolchgarwch am y Rhodd o Blentyn (y cyfeirir ato fel ‘bendith’ neu hyd yn oed ‘gysegriad’), yn amser i deulu ddod ynghyd a dathlu rhywbeth arbennig iawn. Mae’r ymchwil yn dangos y gall rhieni ddewis y gwasanaeth hwn am y rhesymau canlynol:
- Ar ôl ystyried ystyr bedydd, efallai y byddan nhw’n teimlo mai gwasanaeth diolchgarwch yw’r dewis cywir.
- Efallai y byddan nhw am gynnwys yr eglwys i ddiolch i Dduw am ddyfodiad plentyn i’w teulu.
Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i sôn am gariad a gofal Duw i bob plentyn, cyn mynd ymlaen i drafod bedydd o bosibl, mewn gwasanaeth hamddenol a mwy anffurfiol.
Gall fod yn gam arall ar daith ffydd i rai teuluoedd, gan gryfhau eu cred.
- Mae’n gyfle i feithrin perthynas â’r teulu, gydag arweinwyr yr eglwys a’r gynulleidfa.
- Gall helpu i greu mwy o ymdeimlad o berthyn i deulu’r eglwys, yn enwedig os yw aelodau’r gynulleidfa yn gwneud pwynt o siarad â nhw pan maen nhw’n ymweld. Mae ymchwil yn dangos bod teulu’n fwy tebygol o ddychwelyd os ydyn nhw’n teimlo cysylltiad.
- Bydd cyflwyno’r teulu i eraill mewn amgylchiadau tebyg (h.y. teuluoedd â phlant bach) yn eu helpu i uniaethu â phobl yn eu heglwys.
- Gall cynnwys gweddïau yn yr wythnosau cyn ac ar ôl y gwasanaeth, yn ogystal ag yn y gwasanaeth ei hun, olygu llawer i deulu.
- Bydd gofyn i’r teulu a hoffen nhw gael emyn neu weddi arbennig yn y gwasanaeth yn eu helpu i deimlo eu bod wedi cael ychwanegu elfen bersonol.
Hwyrach fod teuluoedd sy’n gofyn am wasanaeth diolchgarwch yn meddwl yn eithaf dwfn am y daith ffydd, felly mae’n bwysig peidio â cholli cysylltiad â nhw. Gofynnwch iddyn nhw a allwch chi gadw eu manylion fel y gall yr eglwys gadw mewn cysylltiad â nhw. Bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn hapus gyda hyn.
Gallai rhai ffyrdd o gadw mewn cysylltiad gynnwys:
- Eu hannog i ymuno â chylch rhiant a phlentyn, os oes un ar gael.
- Os oedd y gwasanaeth diolchgarwch yn dod cyn y bedydd, dechreuwch archwilio beth mae hynny’n ei feddwl.
- Rhowch wahoddiad iddyn nhw i wasanaethau arbennig fel Cristingl, drama’r geni, gwasanaethau’r Pasg a Sul y Mamau.
- Cofiwch eu gwahodd i ddigwyddiadau i’r teulu, fel diwrnodau hwyl, picnics neu ddigwyddiadau elusennol os oes rhai.