Bedydd – ond a ddylem ddefnyddio ‘Baptism’ neu ‘Christening’ yn Saesneg?
Mae’r holl ddeunyddiau Digwyddiadau Bywyd wedi’u cynllunio i’w rhoi i deuluoedd i gefnogi gweinidogaeth fedydd gan ddefnyddio’r gair ‘christening’ fel man cychwyn. Pam hynny?
Mae canfyddiadau gwaith ymchwil yn glir iawn – y gair a ddefnyddir fwyaf gan deuluoedd i ddisgrifio gwasanaeth Bedydd Sanctaidd yn Saesneg yw ‘christening’. Ac mae pobl dros 10 gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio’r gair “christening” wrth chwilio ar y we am wybodaeth a chynhyrchion cysylltiedig fel rhoddion, na’r gair “baptism”.
Mae manwerthwyr yn ymwybodol o hyn hefyd, ac mae bron eu holl roddion a chardiau cyfarch yn cynnwys y gair ‘christening’. Mae hyn yn dweud llawer am yr iaith a ddefnyddir fel arfer.
Drwy siarad mewn iaith y mae pobl yn gyfarwydd â hi rydym yn agor sgwrs. Dyma’r cam cyntaf i gyd-ddealltwriaeth rhwng yr eglwys a’r teulu am beth sy’n digwydd go iawn wrth i blentyn gael ei fedyddio.
Cadarnhaodd yr ymchwil fod teuluoedd yn meddwl am y gwasanaeth sy’n cynnwys taenu dŵr ar ben eu plentyn wrth glywed y gair ‘christening’ yn Saesneg. Mae’r dŵr yn bwysig iawn iddyn nhw. Hebddo, nid yw’r gwasanaeth yn un ‘go iawn’.
Datgelodd yr ymchwil y canlynol hefyd:
- Mae’r gwasanaeth hefyd yn ymwneud â theulu’n dod ynghyd i ddathlu a pharhau traddodiad teuluol.
- Mae teuluoedd yn ei ystyried gyda difrifoldeb ysbrydol na allan nhw ei fynegi mewn geiriau o bosib - mae llawer eisoes ar daith ffydd.
- Mae rhieni’n teimlo eu bod yn gwneud dewis ar ran eu plentyn sy’n rhan o roi’r cychwyn gorau mewn bywyd iddo fe neu iddi hi, a bod hyn yn cynnwys anogaeth gan rieni bedydd ac amddiffyniad a bendith Duw.
Felly mae’r ddau air yn gywir – mater ydyw o gyfathrebu â phobl yn y ffordd fwyaf hygyrch posibl.