Meddyliau ar fedyddio Rhieni Bedydd yn yr un gwasanaeth â’u Plant bedydd
Fel ficer lleol mae’n fraint bod yno i deuluoedd sydd am fedyddio eu plentyn. Yn aml bydd gan deuluoedd lawer o gwestiynau am y gwasanaeth ac am eu dewis o rieni bedydd. Rwy’n croesawu’r cwestiynau’n fawr ac mae’n gyfle gwych i drafod pryderon rhieni a gweithio gyda’n gilydd wrth i ni gynllunio’r gwasanaeth.
Yn aml iawn, bydd rhieni wedi gwneud penderfyniad am rieni bedydd cyn dod ataf fi. Mae rhieni’n gwneud y dewisiadau hyn heb fod yn ymwybodol bod yna rai meini prawf i fod yn rhiant bedydd, sef bod yn rhaid iddyn nhw fod wedi cael eu bedyddio eu hunain. Does dim rheswm pam y dylai rhieni wybod hyn, ond mae yna ffordd hawdd ymlaen.
Mae cael cais i fod yn rhiant bedydd yn fraint fawr ac yn dangos cymaint mae’r rhieni’n gwerthfawrogi eu perthynas â nhw a’u plentyn. Mae hefyd yn adeg i fyfyrio ar fywyd, beth sy’n bwysig, a pha ran mae ffydd yn cyfrannu at hyn. Felly, pan nad yw rhiant bedydd heb gael ei fedyddio ei hun, y cwestiwn cyntaf amlwg yw a hoffai ystyried hyn. Rwy’n falch iawn bod y rhieni bedydd yn cytuno i hyn fel arfer!
I mi, mae bedydd yn ymwneud â gras Duw, ac mae gweld rhieni bedydd yn cael eu bedyddio cyn eu plentyn bedydd mewn gwasanaeth bedydd yn gwneud achlysur arbennig yn fwy arbennig fyth. Felly, er na allwn ganiatáu i bobl sydd heb gael eu bedyddio fod yn rhieni bedydd, gallwn gytuno bod gras Duw ar gael i bawb, a bedyddio rhieni bedydd a phlant bedydd yn yr un gwasanaeth!
Kate Stacey