Defnyddio losin Jelly Babies i siarad am wahanol rolau yn nheulu Duw
Dyma syniad am bregeth gwasanaeth bedydd gyda’r neges bod yna lawer o rolau yn Nheulu Duw a bod gan bawb ran i’w chwarae ym mywyd Cristnogol y plentyn hwn. Cefais ymateb da ac ro’n i’n teimlo bod llawer o bobl yn uniaethu gan fod gan bawb ei hoff Jelly Baby. Defnyddiais set o Jelly Babies tegan a gwneud bag anferth er mwyn i bobl ddewis eu hoff un nhw wrth i mi siarad amdanyn nhw..
Cyfeiriad Beiblaidd: Bedydd Iesu: Mathew 3, Marc 1, Luc 3
Nodiadau’r anerchiad:
Rhowch hanes cryno Jelly Babies (gweler Wikipedia ac ati)
Roedd pob jelly baby’n arfer bod yr un siâp, yna ym 1989, rhoddwyd enw i chwech ohonyn nhw, a’u hunaniaeth a’u nodweddion eu hunain.
Estynnwch nhw allan o’r bag
- Baby Bonnet pinc – drygionus
- Boofuls gwyrdd – crïo, calon feddal
- Bumper oren – bag pen-ôl, llawn egni
- Bubbles melyn – gwallt mewn cynffon, bywiog
- Bigheart llwyd – calon ar ei lawes, rhoi eraill yn gyntaf
- Brilliant coch – cap pêl-fasged, arweinydd
Mae angen cymysgedd dda o bobl i wneud bag o Jelly Babies/i fod yn deulu/yn gyfrifol am fagu/dylanwadu ar blentyn – mae llawer o bobl yn rhan o’r broses o feithrin plentyn.
- Iesu, a’r plentyn hwn
- Mair a Joseff – rhieni
- Meddygon teulu/teulu
- Tri gŵr doeth – y rhai sy’n cydnabod potensial
- Anna a Simeon – pobl hŷn sy’n llawn gwirioneddau, hyd yn oed pan fo rheini’n rhai anodd i’w clywed
- Offeiriaid yn y deml – y rhai sy’n ein haddysgu/dysgu gyda ni am Dduw
- Ioan Fedyddiwr – y rhai sy’n ein helpu i gyflawni cynllun Duw i ni
- Pwy ydym ni ym mywyd y plentyn hwn?
- Sut byddwn ni’n cyflawni ein rôl ym mywyd y plentyn hwn?
- Angen yr Ysbryd Glân – mae bedydd yn gyfle i ni i gyd adnewyddu’n ffydd.
Shanthi Thompson