Defnyddio gwarbac ac olion troed i helpu i siarad am daith ffydd
Dyma amlinelliad byr ar gyfer pregeth gwasanaeth bedydd. Byddwch angen gwarbac a rhai cymhorthion gweledol; map, cwmpawd a/neu ddyfais satnav. Os ydych am roi cynnig ar yr awgrym olion traed isod, byddwch angen ôl-troed papur ar gyfer pawb yn yr eglwys.
Rwy’n byw yn Ardal y Llynnoedd felly roedd pobl yn uniaethu’n hawdd ag anerchiad yn ymwneud â thaith gyda map ac ati. Rydw i wedi gwneud rhywbeth tebyg gyda symbolau map Arolwg Ordnans – pwyntiau trig, cyfuchliniau agos, golygfannau, pwyntiau gwybodaeth ac ati yn ymwneud â’r daith Gristnogol hefyd.
Cyfeiriad Beiblaidd: mae’n gweithio gyda llawer o ddarlleniadau. Fe wnes i ddefnyddio 1 Ioan 2:1-2, 12-14 ar Sul y Tadau
Neges: Taith yw bywyd y Cristion ac mae Duw’n darparu’r cyfan sydd ei angen arnom.
Nodiadau’r anerchiad:
Cyflwynwch y syniad ein bod ni i gyd wedi dod i’r eglwys gan ddefnyddio gwahanol drafnidiaeth a’ch bod chi’n hoffi cerdded
Beth sydd ei angen i gerdded (dylech fod â gwarbac a chymhorthion gweledol)
Cerdded taith y Cristion gyda’n ‘cit’
- Map – llun mawr o’r Beibl (Beibl yr eglwys) – rydym yn rhan o’r stori fawr
- Cwmpawd/lleoliad gps? Iesu (cannwyll bedydd) = cwmpawd
- Ysbryd Glân (colomen) – gps
- Byrbryd/addysgu am gynhaliaeth/grwpiau/ysgol/llan llanast ac ati (Beibl rhodd)
- Cwmni – pobl eraill, yr Eglwys a’r teulu Cristnogol i gael cymorth ac anogaeth
Mae gan bawb rôl i’w chwarae ac rydym yn cerdded taith ffydd gyda’n gilydd.
Efallai ein bod ni i gyd wedi cyrraedd gwahanol fannau ar hyd y daith ac yn teithio ar gyflymder gwahanol o bosibl.
Darnau hawdd a darnau anodd – yr Ysbryd Glân a theulu’r eglwys yno i’n helpu/cefnogi/cynnal pan fo angen.
Gallech roi siapiau ôl-troed i bawb.
Bydd popeth a wnawn yn dylanwadu ar y rhai o’n hamgylch ni – gallwn ddewis sut.
Defnyddio’r olion traed papur
- Gallech roi siapiau ôl-troed i bawb.
- Ar un ochr, gofynnwch i bobl ysgrifennu pwy sydd wedi bod yn ddylanwad Cristnogol yn eu bywyd – pwy ydych chi wedi’i ddilyn?
- Ar yr ochr arall, ysgrifennwch pwy ydych chi am fod yn ddylanwad Cristnogol arnyn nhw (ar y plentyn hwn?) - pwy gobeithio fydd yn dilyn eich esiampl?
- Ewch â’r ôl-troed adref i’ch atgoffa ein bod ni i gyd yn dilyn Iesu a diolchwch i Dduw am y rhai sy’n ein harwain ni.
Shanthi Thompson