Defnyddio ffilm ‘The Lion King’ fel prop
Rwyf wedi defnyddio’r olygfa gyntaf o ‘The Lion King’ – pan mae’r Simba ifanc yn cael ei gyflwyno i ryw fath o ‘fedydd’. Rwyf wedi’i ddefnyddio gyda brodyr a chwiorydd hŷn pan mae eu brawd neu chwaer iau yn cael eu bedyddio. Mae’r clip yn y ffilm Disney’n dangos y gymuned gyfan yn dod at ei gilydd i groesawu Simba. Mae’n cael ei eneinio, ei groesawu a’i ‘fendithio’ pan mae’r golau’n ymddangos yn yr awyr. Rydym yn trafod sut mae pawb yn bwysig yng ngolwg Duw, a pha mor falch ydym ni fel eglwys o groesawu pob person. Efallai fod y clip ar YouTube ond byddai’n well defnyddio’r DVD i osgoi’r hysbysebion.
Gill O’Neill