Beth am Wasanaeth Sul arbennig i Rieni Bedydd?
Meddyliwch am neilltuo Sul arbennig bob blwyddyn i wahodd rhieni bedydd a theuluoedd y rhai a gafodd eu bedyddio yn ôl i’r eglwys.
Mae’n gyfle gwych i gynnwys teuluoedd ym mywyd parhaus yr eglwys, a chynnwys pawb yn y gynulleidfa sy’n rhieni bedydd neu’n blant bedydd hefyd.
Bydd rhieni bedydd yn rhan o deulu ac o fywyd yr eglwys am flynyddoedd maith i ddod, a bydd y berthynas yn para am oes. Felly mae neilltuo Sul i ddathlu a gweddïo dros y berthynas arbennig hon yn gyfle gwych i rannu gyda theuluoedd a gofyn am fendith Duw ar rieni bedydd a phlant bedydd ym mhob man.
Does dim rhaid cymhlethu’r peth. Cadwch y cyfan yn syml drwy gynnwys gweddïau Sul Rhieni Bedydd yn eich gwasanaeth arferol, neu:
- gallwch ymestyn y croeso yn ehangach a gwahodd teuluoedd â phlant a gafodd eu bedyddio’n ddiweddar i’r eglwys ar gyfer gwasanaeth arbennig,
- ’gallwch drefnu rhywbeth mawr ai wneud yn achlysur gwych i ddathlu. Beth am wahodd teuluoedd a rhieni bedydd i barti yn syth ar ôl y gwasanaeth os oes gennych chi’r cyfleusterau efallai? Mae hefyd yn ffordd wych o gael aelodau eraill i fod yn rhan o’r achlysur drwy ofyn iddyn nhw helpu gyda’r arlwyo. Mae pawb ar eu hennill!