Uniaethu
Dwi’n teimlo mod i’n hwyr i’r parti gyda’r gair ‘relatable’. Dwi ond newydd ddarganfod ei fod yn cael ei ddefnyddio’n eang mewn diwylliant poblogaidd, nid dim ond fel disgrifiad o memes ciwt a chysurlon, diarhebion a geiriau yn unig ond hefyd am bobl enwog, digwyddiadau, ac i raddau llai, Iesu.
Ystyr gyfoes ‘relatable’ yw galluogi person i deimlo y gall uniaethu â rhywun neu rywbeth. Beth allai ddigwydd tybed pe bai pobl yn gallu uniaethu â’n cymunedau ffydd leol - llefydd lle y gallai pobl nad ydyn nhw’n perthyn eto ddod o hyd i rywun i gysylltu â nhw, i feithrin perthynas â nhw, i wneud ffrindiau â nhw.
Mae teuluoedd bedydd, cyplau sydd wedi priodi, pobl sydd wedi cael profedigaeth, sydd wedi teithio o gysylltiad cychwynnol i fod yn rhan weithredol o gymuned addoli leol, i gyd yn siarad am argraffiadau cyntaf o gynhesrwydd - ac o fedru uniaethu, o fod yn berthnasol. Mae ymchwil ehangach gyda’r rhai sy’n dod yn rhan o eglwys, a chyda’r rhai sy’n gadael, yn pwysleisio’r ffactorau hyn. Mae bod yn berthnasol neu’n rhywbeth y gellir uniaethu ag ef yn mynd ymhellach na chyfres o dasgau neu ddatganiad ein bod ni’n eglwys ‘gyfeillgar’. Mae’n golygu cymryd diddordeb ym mywydau pobl, a dod â’r Efengyl i mewn i sgwrs ynghanol phethau cyffredin bywyd bob dydd drwy addoliad, pregethu, sgwrs, cyfranogi, gwahodd a mwy.
Yn ddiweddar, clywais sgwrs am weithio gyda phobl ddigartref, a oedd yn cymharu dull gweithrediadol gyda dull perthynol. Gwnaeth i mi feddwl pa mor hawdd mae’r croeso rydym ni’n ei gynnig yn yr eglwys yn mynd yn weithrediadol: cyfres o dasgau sy’n rhaid i ni eu gwneud, yn amrywio o ddosbarthu taflenni i wybodaeth am wasanaethau i ddod. Ond beth os bydden ni’n meddwl am groeso fel rhywbeth perthynol, sy’n adlewyrchu eglwys ‘y gellir uniaethu â hi’, a Iesu ‘y gellir uniaethu ag ef’. Fel y clywais mewn un bregeth...”mae yna rywbeth am Iesu. Mae’n denu pobl. Mae Iesu’n dangos i ni ei fod yn croesawu pobl ble bynnag maen nhw.” Gall y cysylltiad cyntaf hwnnw â Duw a phobl Dduw, sut bynnag mae’n digwydd, fod yn adeg pan ddaw taith ffydd yn fyw, wrth i ni adlewyrchu croeso Iesu.
Y Parchedig Ddoctor Sandra Millar