Datblygu a chynnal ‘cysylltiadau cynnes’
Bob wythnos mae’r Eglwys yng Nghymru yn arwain cannoedd o angladdau, priodasau a gwasanaethau bedydd.
Yn aml, mae pob un o’r gwasanaethau hyn yn denu llawer o bobl, er nad ydym yn gwybod faint yn union. Mae cynulleidfaoedd yn y digwyddiadau hyn yn cynyddu’n aml wrth i deuluoedd a ffrindiau wasgaru, ac wrth i gyfleoedd i ddod ynghyd ddod yn bwysicach, felly er nad oes gennym yr union ffigurau rydym yn sôn am filoedd o bobl ar draws yr Eglwys yng Nghymru bob wythnos.
Bydd llawer o’r bobl hyn yn mynychu mwy nag un gwasanaeth: mae’r rhai yn y grŵp oedran 18-40 oed yn debygol iawn o fod yn bresennol mewn priodasau a gwasanaethau bedydd, tra bydd llawer o bobl hŷn yn gweld eu hunain yn mynychu angladdau yn rhy aml o lawer. Mewn rhai o’n cymunedau gwledig bydd llawer o glerigion yn dod i gysylltiad â dros hanner y boblogaeth drwy’r gwasanaethau achlysurol, neu ddigwyddiadau bywyd hyn, sy’n gwneud yr achlysuron hyn yn bwysig ac arwyddocaol.
Meddai ficer eglwys hudolus yng nghefn gwlad sy’n cynnal llawer iawn o briodasau: “Dwi ddim yn gwybod ai dyma’r tro cyntaf i’r cant o wahoddedigion priodas fod mewn eglwys yn eu bywydau, ac efallai na fyddan nhw’n mynychu eglwys eto, felly dwi am roi’r profiad gorau posib iddyn nhw.”
Rydym yn anwybyddu cysylltiadau ehangach yn llawer rhy hawdd am ‘na fyddwn yn eu gweld byth eto’, ac nad oes gennym syniad ble mae unrhyw berson ar ei daith bersonol neu ffydd. Ond gwyddom y gall profiad negyddol fel un o’r gwahoddedigion mewn gwasanaeth eglwys sy’n nodi digwyddiad bywyd ei gwneud hi’n anodd iawn y tro nesaf y byddwn yn ceisio rhannu’r newyddion da am Iesu Grist. Felly mae’n gwneud synnwyr i ni groesawu pobl, i rannu neges berthnasol ac i’w cynnwys cymaint â phosib.
Un o’r ffyrdd gorau o gynnwys y gynulleidfa ehangach yw eu cynnwys mewn gweddi
Un o’r ffyrdd gorau o gynnwys y gynulleidfa ehangach yw eu cynnwys mewn gweddi. Mae yna sawl ffordd greadigol o wneud hyn, fel dosbarthu un o’r nodau llyfr gweddi sydd ar gael gan y Print Hub mewn angladdau a gwasanaethau bedydd. Mae yna gardiau ar gyfer gwahoddedigion priodas hefyd.
Cysylltiadau cynnes yw’r rhai sy’n ganolog i bob gwasanaeth achlysurol. Dyma’r bobl sydd wedi gofyn i ni am gymorth ar adeg allweddol yn eu bywydau. Yn y diwylliant sydd ohoni, does dim angen i neb deimlo fod rhaid iddyn nhw gynnwys yr eglwys wrth briodi, wrth groesawu plentyn i’w teulu neu pan fo un o’u hanwyliaid yn marw, ac eto, mae llawer o bobl yn dewis cysylltu â ni.
Mae gennym gyfle gwych felly i gysylltu â’r rhai sy’n ganolog i’r gwasanaeth. Yn achos priodas, y ddau berson sy’n priodi; gydag angladd gall fod yn 10 neu’n un, ond y cyfartaledd yw 3 o bobl yn rhan o drefnu’r gwasanaeth; a chyda bedydd plentyn rydym yn cael cysylltiad cynnes â 6 o bobl: plentyn, dau riant fel arfer, ac o leiaf 3 rhiant bedydd.
Mae hyn yn golygu bod yr Eglwys yng Nghymru mewn cysylltiad â miloedd ar filoedd o bobl bob blwyddyn. Mae’n nifer mor fawr fel bod angen i ni ei symleiddio rhywfaint er mwyn ei ddirnad yn iawn.
Fe gymerodd un ficer y fformiwla hon ac edrych ar niferoedd y gwasanaethau achlysurol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei phlwyf. Aeth ati i gyfrif ei bod wedi cael cysylltiad cynnes â thua 442 o bobl yn 2015. Yna, heriodd ei hun a’i chynulleidfa i geisio denu rhwng 1% a 5% yn ôl i’r eglwys, a fyddai’n golygu rhwng 5 a 25 o bobl newydd y flwyddyn!
Mae gweddïo dros angladdau, gwasanaethau bedydd a phriodasau’n cael ffocws newydd yn sydyn ac mae cynnig croeso cynnes, meithrin perthynas a chynnal cysylltiad dilynol da yn dod yn adnoddau go iawn i wneud gwahaniaeth.
Yn aml iawn wyddom ni ddim beth fydd yn digwydd i’r bobl rydym ni’n cwrdd â nhw, boed yn gysylltiadau ehangach neu gynnes. Efallai eu bod wedi mynd i oleuo cannwyll mewn eglwys gadeiriol neu eglwys fechan pan oedden nhw ar eu gwyliau; gall blynyddoedd fynd heibio nes bod yr achlysur nesaf yn ysgogi teimladau mawr, cwestiynau mawr, meddyliau mawr. Ond rydym yn cyffwrdd â llawer o fywydau bob wythnos, yn hau hadau newyddion da cariad Duw a ddatguddiwyd yn Iesu Grist, ac sy’n cael ei amlygu mewn cariad, gobaith a gras yn nigwyddiadau mawr bywyd.
Fel yr Eglwys yng Nghymru, mae’n fraint i ni gyfarfod pobl a mynd ar daith gyda nhw, yn lleol a chenedlaethol, mewn gweddi ac yn bersonol. Gadewch i ni gydnabod a gwerthfawrogi pawb rydym ni’n cwrdd â nhw.