Angladdau
Cyflwyniad: Pam mae gweinidogaeth angladdau’n bwysig
Mae gweinidogaeth angladdau’n rhan allweddol o weinidogaeth y plwyf i lawer o eglwysi, boed mewn cymunedau gwledig traddodiadol neu mewn canolfannau trefi prysur. Mae clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig yn cynnal angladdau mewn eglwysi, amlosgfeydd ac mewn claddfeydd gwyrdd, gan ddarparu gofal bugeiliol, trugaredd a gobaith i filoedd o deuluoedd galar a’u ffrindiau bob blwyddyn.
Mae ymchwil yn dangos y canlynol:
- Mae gan y rhan fwyaf o bobl brofiad cadarnhaol o angladd mewn Eglwys Anglicanaidd.
- Mae’r diwylliant sy’n gysylltiedig â marwolaeth ac angladdau’n newid.
- Mae teuluoedd am i angladdau fod yn unigryw a phersonol.
- Mae’r tabŵ o siarad am farwolaeth cyn iddo ddigwydd yn cael ei herio.
- Mae’r berthynas gyda’r Ymgymerwr yn hanfodol – ac yn newid.
Yn yr adran hon ar angladdau fe welwch chi syniadau gan glerigion ac eraill i’n helpu ni i gyd i gefnogi teuluoedd galar cystal ag y gallwn ni.
Ni fydd pob syniad neu awgrym yn berthnasol i’ch gweinidogaeth chi neu’ch eglwys chi, a gall llawer o’r syniadau a’r awgrymiadau fod yn arfer da. Fodd bynnag, gobeithio y bydd digon yno i’ch annog chi a’ch galluogi chi yn y weinidogaeth freintiedig a phwysig hon.
Y Parch Chris Burr
Adnoddau
Archwilio'r meddwl
Erthyglau
- Helpu’r rhai sy’n galaru gyda gwasanaeth arbennig adeg y Nadolig
- Cymun noson cyn angladd
- Gwahodd pobl i Wasanaethau Coffa
- Deall Galar
- Perthynas rhwng clerigion ac ymgymerwyr
- Braint Gweinidogaeth Angladdau
- Beth sy’n gwneud angladd da?
- Erthygl ar weinidogaeth profedigaeth yn y Church Times
- Defnyddio Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain