Profiad unigolyn o ddefnyddio ‘Gravetalk’
Nid yn aml mae fy mab 12 oed a’m gŵr yn ymateb yn yr un ffordd – “Pwy sy’n treulio eu penwythnos yn meddwl am farwolaeth?!”
Fe es i Ammerdown Centre i fynychu encil o’r enw ‘Just Passing Through’, dan arweiniad Sue Brayne. Buom yn ystyried marwolaeth a marw, ac ar y nos Sadwrn cawsom wahoddiad i gymryd rhan mewn caffi marwolaeth.
Roedd yn brofiad ysbrydoledig (wir yr!), felly ro’n i’n falch o weld bod gan Eglwys Lloegr adnodd newydd o’r enw ‘GraveTalk’ (Church House Publishing), sy’n galluogi pobl leyg i gynnig lle ar ffurf caffi i siarad am farwolaeth.
Ers canrifoedd mae’r eglwys wedi bod yn ganolog i brofiad a meddyliau pobl am farw, marwolaeth, angladdau a galar. Yn fugeiliol, rydym yno i bobl wrth iddyn nhw wynebu marwolaeth, ac yno iddyn nhw wrth iddyn nhw gynllunio angladdau a galaru. Mae ‘GraveTalk’ yn creu cyfleoedd i siarad am y pynciau hyn sy’n dabŵ yn aml, mewn awyrgylch hamddenol a chymdeithasol.
“Ro’n i’n hoffi’r cardiau trafod ac yn meddwl bod y syniad o gael te a chacen yn ennyn sgwrsio anffurfiol. Ffordd wych o ddechrau sgwrs dda am lawer o’r materion sy’n ymwneud â marwolaeth. Ro’n i’n hoffi’r ffordd roedd y cyfan yn digwydd mewn grwpiau bach gydag un ‘arweinydd’ gan felly osgoi cael un person yn rheoli’r drafodaeth. Ces lawer i gnoi cil yn ei gylch.”
Cynlluniwyd ‘GraveTalk’ i gael ei drefnu gan yr eglwys leol, a gellir ei gynnal mewn neuadd, cartref neu gaffi go iawn – ble bynnag fo’r lleoliad, mae cacen yn gwbl hanfodol! Mae’n addas ar gyfer unrhyw grŵp oedran, ac yn agored i bobl o bob ffydd ac amheuaeth.
Y syniad yw bod tîm bychan yn cynnal y digwyddiad gan ddefnyddio’r canllaw llawn gwybodaeth i hwyluswyr. Mae yna becyn o 52 cwestiwn agored sydd wedi’u hysgrifennu’n arbennig i gael pobl i drafod marwolaeth, marw, angladdau a cholled. Er enghraifft, ‘Beth oedd eich profiad cyntaf o alar?’, ‘Sut ydych chi’n teimlo am wisgo lliwiau llachar mewn angladd?’, ‘Beth mae cysegrfan ochr ffordd yn ei olygu i chi?’ neu ‘Os gallech chi ofyn un cwestiwn i un o’ch anwyliaid sydd wedi marw beth fyddai hwnnw?’
Cwestiynau i ennyn sgwrs yw’r rhain – nid cwnsela ar gyfer galar yw nod y sesiynau hyn, na darlith gan arbenigwyr, na llwyfan i draethu athrawiaethau neu athroniaethau arbennig. Mae’n amser ar gyfer gwrando a rhannu meddyliau, cwestiynau a phrofiadau mewn ffordd gefnogol, gan adael i’r sgwrs lifo’n naturiol.
“Roedd y cwestiynau ysgogi sgwrs yn amrywiol iawn. Don i ddim yn siŵr y byddai rhai ohonyn nhw’n gweithio, ond fe wnaethon nhw’n rhyfedd iawn. Arweiniodd cardiau gwahanol at feddyliau a thrafodaethau anhygoel. Wedi’i drefnu’n dda.”
Ar ôl rhannu fy mrwdfrydedd cefais wahoddiad i arwain sesiwn ym mis Ionawr i gyflwyno’r adnodd hwn i gyd-Weinidogion Lleyg Trwyddedig ledled esgobaeth Bryste, gan dreulio penwythnos yn Torquay yn cael cymdeithas ac yn bwrw golwg fanylach ar brif bwyslais ein hesgobaeth, sef ‘Creu Cysylltiadau’. Roeddwn i’n eithaf nerfus oherwydd roedd fy nghydweithwyr wedi bod yn drwyddedig ers llawer mwy o flynyddoedd na fi, ac roedd gan rai weinidogaeth angladdau helaeth (dim pwysau felly!).
Er ein bod ni’n siarad am ffyrdd o gysylltu â’n cymunedau, y ffordd orau o ddysgu am yr adnodd hwn oedd ei brofi drosom ni ein hunain. O ganlyniad, cawsom amser o rannu dwfn, gonest a dirdynnol, a ddaeth i ben gyda myfyrdod gweddigar yn canolbwyntio ar yr adnod hyfryd o Salm 56 ‘Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau - onid ydynt yn dy lyfr?’ (Salm 56:8)
“Gweithdy da iawn – agoriad llygad a chyfle gwych am sgwrs a thrafodaeth.”
“Diddorol gweld Grave Talk ar waith. Pwnc pwysig i’w drafod.”
Roedd y grŵp yn gadarnhaol iawn am ‘GraveTalk’. Buom yn cyd-chwerthin a chyd-wylo, yn dysgu am ble gallwch chi (ac na allwch chi!) gladdu pobl, gyda’r cyfan yn dwyn i gof profiadau o’r gorffennol i sawl un ohonom. Roeddem yn teimlo y byddai hyn yn ddefnyddiol ar gyfer ymgysylltu â’r cymunedau rydym yn byw ynddynt a’u cefnogi’n bendant, ac rydw i eisoes wedi cael cais i’w rannu gyda grŵp cartref ac fel rhan o hyfforddiant gyda thîm ymweld bugeiliol.
“Ro’n i wedi clywed am ‘Grave Talk’; rwan mod i’n gwybod beth ydy o, fe wna’i fynd ag o yn ôl i’r tîm ymweld ar gyfer pobl mewn profedigaeth. Diolch yn fawr.”
Dwi’n frwdfrydig am fy rôl fel Gweinidog Lleyg Trwyddedig gan fy mod i’n cael bod allan yn y gymuned, ar reng flaen yr eglwys, gan gyflwyno Duw i sgyrsiau bob dydd. Yn rhyfedd, does gen i ddim gweinidogaeth angladdau ar hyn o bryd, ond mae ‘Grave Talk’ yn ymddangos fel llawer mwy i mi. Mae galluogi pobl i gael sgyrsiau am bynciau sensitif, sy’n aml yn anodd i’w codi gyda theulu a ffrindiau, yn gyfle bugeiliol gwych ar unrhyw adeg mewn bywyd.
Dwi’n credu y bydd yn adnodd defnyddiol hefyd wrth i mi ymweld a chefnogi’r pedair ysgol eglwys yn ein bywoliaeth - mae’r cwestiynau wedi’u llunio cystal fel y gellir eu defnyddio wrth siarad â phobl ifanc fel rhan o’u Haddysg Grefyddol neu ‘amser cylch’. Mae fy ffydd i yng nghariad Duw a’r Iesu atgyfodedig, a’m profiadau o brofedigaeth, wedi fy arwain ar y llwybr newydd hwn, a dwi’n gyffrous i weld i ble mae’n arwain.
Katherine Bloomer