Gofynnwch i’r teulu wirio’r deyrnged ymlaen llaw
Ar ôl cyfarfod y teulu neu ffrindiau, a siarad am eu hanwylyd, yn aml gofynnir i weinidogion ysgrifennu teyrnged ar ran y teulu. Mae’n anodd iawn cael hyn yn iawn, yn enwedig os oes yna rwygiadau o fewn y teulu. Ffordd dda o sicrhau bod gennych chi’r ffeithiau cywir, ac osgoi achosi unrhyw dramgwydd ar y dydd, yw rhannu’r deyrnged gyda’r teulu cyn yr angladd. Gallwch wneud hyn yn bersonol neu ar e-bost. Yn ogystal â gwirio am gywirdeb, mae’n galluogi’r teulu i wirio bod popeth maen nhw’n ei ddymuno ynddo, ac yn gyfle iddyn nhw ychwanegu pethau eraill na wnaethon nhw feddwl amdanyn nhw o bosibl wrth drafod. Os na allwch chi ymweld â nhw’n bersonol, nac anfon e-bost, gallwch anfon copi caled a’u ffonio wedyn.
Y naill ffordd neu’r llall, rydw i fel arfer yn anfon copi caled o’r deyrnged yn y dyddiau ar ôl yr angladd ac mae teuluoedd yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Rydw i hefyd yn cynnwys copi o unrhyw ddarlleniadau o’r Beibl a/neu gerddi a ddarllenais yn y gwasanaeth hefyd.
Y Parch Chris Burr