Cymun noson cyn angladd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi annog mwy a mwy o aelodau fy nghynulleidfa i ystyried cael cymun gwylnos noson cyn eu hangladd. Dydyn ni ddim yn blwyf Anglo-Gatholig, lle mae cynnal gwylnos yn fwy cyffredin, ond rwy’n ei weld fel rhywbeth grymus iawn i’r galarwyr, ac mae’n rhoi cysur iddyn nhw mewn ffordd wahanol i’r prif angladd.
Mae yna nifer o fanteision i’r gwasanaeth:
- Rydym yn gosod y Cymun yn ganolog yn y gwasanaeth hwn. Mae’n rhyfedd ein bod ni mor gyndyn i ddathlu’r Cymun mewn perthynas â’r marw, ac yntau wedi dod yn rhan ganolog o fywyd yr eglwys dros y blynyddoedd diwethaf. Yn aml, gall ymddangos yn anymarferol cael Cymun mewn prif wasanaeth angladdol, yn enwedig pan nad yw teulu’r ymadawedig yn rhannu ei ffydd - a hyd yn oed os ydyn nhw, ni fydd llawer sy’n bresennol yn yr angladd yn rhannu’r ffydd honno. Mae’r wylnos yn galluogi grŵp llawer llai i ymgasglu a chael eu hatgoffa o daith ffydd eu ffrind neu aelod o’u teulu.
- Mae’n fwyfwy cyffredin cael gwasanaeth claddu preifat cyn y gwasanaeth o ddiolchgarwch cyhoeddus. Mae hyn yn golygu na fydd y person a oedd yn aelod ffyddlon o fywyd yr eglwys yn dod i’r eglwys pan fydd wedi marw, sy’n anodd iawn i lawer o bobl. Mae gwasanaeth gwylnos ar y noson cyn yr angladd yn galluogi’r person i orffwys mewn eglwys drwy’r nos.
- Mae gwasanaeth gwylnos yn gwneud defnydd llawn o symbolaeth lawn cymaint â geiriau. Mae’r eglwys yn cael ei goleuo â chanhwyllau ac mae symbolau ffydd, fel dŵr bedydd, croes a Beibl yn cael eu gosod ar yr arch. Mae’r arfer Cristnogol o osod y bara a’r gwin cysegredig yng ngheg y sawl sydd wedi marw i’w gario dros yr Iorddonen yn copïo’r arfer paganaidd o osod darn o arian yng ngheg yr ymadawedig i dalu dyn y fferi i’w hebrwng ar draws Afon Styx i Hades.
- Pan fyddwn yn gwybod y bydd y prif wasanaeth angladdol yn un mawr iawn, mae’n cynnig lleoliad mwy agos atoch i’r teulu alaru’n breifat. Er bod rhywun yn gallu cael cysur o gerdded i mewn i angladd aelod o’r teulu a gweld cannoedd o bobl yno, mae hefyd yn teimlo eu bod yn gorfod rhannu’r person roedden nhw’n ei adnabod fel gŵr, gwraig, plentyn, rhiant â chymaint o bobl eraill. Mae gwylnos fechan i deulu a ffrindiau agos yn darparu lleoliad mwy agos atoch lle mae’n haws i chi fod yn fwy ymwybodol o’ch galar eich hun.
O ran elfennau ymarferol y gwasanaeth, rydym yn tueddu i gynnal y rhain min nos. Weithiau, mae ymgymerwyr yn barod i ddod â’r ymadawedig i’r eglwys y tu allan i o oriau arferol – er y byddan nhw’n codi llawer mwy ar y teulu am wneud hyn – ond fel arall, mae’r arch yn dod ar ddiwedd y diwrnod gwaith arferol. Rwy’n gweld bod gen i ddigon o waith yn yr eglwys yn paratoi am y gwasanaeth gyda’r arch yn ei lle heb orfod gadael cyn i’r wylnos ddechrau.
Dydy aros gyda’r arch drwy’r nos ddim yn rhan o’n traddodiad. Ar ddiwedd y gwasanaeth, gall pobl aros am faint bynnag maen nhw eisiau neu fynd mor fuan ag y maen nhw eisiau, ac mae pawb yn ymateb yn wahanol i hyn. Weithiau, maen nhw’n aros yn hir o amgylch yr arch, yn siarad â’r sawl sydd wedi marw, yn cydnabod ei bresenoldeb, yn ffarwelio; bydd eraill yn gadael yn gymharol gyflym. Rwy’n atgoffa’r teulu wrth iddyn nhw ddod â’r ymadawedig i’r eglwys ein bod ni ym mhresenoldeb yr un sy’n gwylio dros Israel, yr un nad yw byth yn huno nac yn cysgu – ac felly bydd yn gwylio dros eu hanwylyd.
Weithiau, byddwn yn canu emyn neu ddau fel rhan o’r gwasanaeth, neu’n adrodd Salm gyda’n gilydd. Gan fod symbolau yn llawn mor bwysig â geiriau mewn Gwylnos, mae cerddoriaeth yn rhan allweddol, ond weithiau gellir gwneud hynny drwy gerddoriaeth wedi’i recordio yn hytrach na phobl yn canu.
Os yn bosibl, rwy’n cael y gynulleidfa i gyd i eistedd o amgylch yr arch. Wrth iddyn nhw ddod i fyny i gael cymun, maen nhw’n cerdded heibio’r arch ac fe allan nhw ei chyffwrdd a dweud rhywbeth heb unrhyw ofn.
Jeremy Brooks