Diwrnod yr angladd ei hun
Y gwasanaeth angladdol ei hun yw penllanw’r holl feddwl a chynllunio. Mae’n newid pwysig i deuluoedd a bydd yn adeg arwyddocaol iddyn nhw. Bydd hi’n anodd anghofio os aiff pethau o’i le. Mae’r adran hon yn edrych ar y prif egwyddorion sy’n codi o’r ymchwil sy’n helpu i wneud y gwasanaeth yn fwy ystyrlon a chofiadwy.
Mae ymchwil yn dangos bod yna ddisgwyliadau uchel ynghylch angladdau, a beth bynnag sy’n digwydd, mae’n rhan bwysig o daith galar a chofio. Fodd bynnag, mae hyd yn oed y camgymeriadau lleiaf yn dod yn arwyddocaol iawn, ac mae’n anodd i’r eglwys adfer ei henw da ar ôl angladd ‘gwael’. Felly mae popeth sy’n digwydd ar ddiwrnod yr angladd yn bwysig.
Paratoi’n dda
- Bydd llawer o Ymgymerwyr yn ffonio’r teulu ar ddiwrnod yr angladd i weld sut maen nhw ac i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn i fwrw ymlaen. Bydd galwad gan y ficer, neu rywun arall o’r eglwys, yn rhoi sicrwydd i’r teulu eu bod yn cael eu cofio mewn gweddi.
- Cofiwch gyrraedd a pharatoi’ch gwisg mewn da bryd yn y lleoliad fel y byddwch chi’n barod i gyfarch pobl.
- Gofalwch fod y lle’n iawn ar gyfer yr angladd o ran y niferoedd disgwyliedig ac er mwyn bodloni gofynion y teulu. Mae teimlo’n hyderus am bob manylyn a threfn pob dim yn allweddol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich nodiadau gyda chi!
Cyflawni’n dda
- Bydd gwneud eich gwaith cartref, yn cynnwys hanesion a chyfeirio at y person sydd wedi marw yn ôl eu henw bob amser, yn golygu llawer i bawb yn yr angladd. (Mae llawer o hyfforddiant gweinyddion sifil yn canolbwyntio ar hyn, gyda phwyslais arbennig ar gael y deyrnged yn iawn). Yn y bôn, mae ffrindiau a theulu am deimlo bod y gweinidog yn deall pwy oedd y person mewn gwirionedd a’u bod yn eu helpu i ddathlu ei fywyd unigryw.
- Mae yna gydbwysedd rhwng adrodd hanes y person a chyfleu gobaith addewidion Duw.
- Bydd y teulu’n cofio’r diwrnod am amser maith wedyn, felly dylech gyflwyno’r cyfan yn raenus. Bydd camgymeriadau’n aros yn y cof am gyfnod hir.
- Gallech ddefnyddio cerdyn gweddi i’w ddosbarthu i bawb sy’n bresennol. Mae’r rhain ar gael i’w prynu gan Church House Publishing. Mae’n cyfleu bod yr eglwys yno i bawb sy’n galaru, nid dim ond i’r teulu agos yn unig.
- Yn ogystal â thaflen Trefn y Gwasanaeth, os oes un, ystyriwch roi copi i’r teulu o bopeth a ddywedwyd, yn cynnwys y darlleniadau a’r gweddïau.
Mynd i’r te claddu neu’r digwyddiad wedi’r angladd
- Os ydych yn cael gwahoddiad, ewch os gallwch chi. Bydd yn gyfle i siarad ymhellach, i ddangos eich cefnogaeth bersonol ac i fod yno am gwestiynau ymarferol a sgyrsiau dyfnach yn aml.