Helpu’r rhai sy’n galaru gyda gwasanaeth arbennig adeg y Nadolig
Mae’r Nadolig yn anodd iawn i lawer o bobl sy’n galaru. Pan mae pawb o’u hamgylch yn dathlu ac yn mwynhau holl hwyl yr ŵyl, gall y rhai sy’n galaru deimlo eu bod yn cael eu cau allan a’u heithrio. Beth am ystyried cynnal gwasanaeth tebyg i ‘Blue Christmas’ neu ‘Wasanaeth y Diwrnod Hiraf’ ar 22 Rhagfyr neu tua’r adeg hynny, sy’n rhoi lle yn yr eglwys i’r rhai sy’n galaru i ddod at y preseb.
Gwasanaeth syml yw hwn, sy’n cynnwys carolau a chyfle i osod cannwyll wrth y preseb, ac mae’n cydnabod y boen y mae llawer yn ei deimlo. Mewn un eglwys lle y cynhaliwyd gwasanaeth o’r fath, gadawodd un person trwy ddweud ‘Dyna wnaeth y Nadolig i fi’ – gan gydnabod mai rhan o ystyr y Nadolig yw bod modd cadw tristwch yn y presennol ond ei wynebu gyda gobaith.
O ganol fis Tachwedd, mae siopau, y cyfryngau a’r byd hysbysebu yn cydgynllwynio i’n darbwyllo bod y Nadolig yn hudol, yn llawn llawenydd a boddhad. Mae pawb yn anghofio am eu pryderon ac mae lluniau o blant yn chwerthin yn atgyfnerthu’r neges nad oes lle i dristwch a gorbryder yn nathliadau’r ŵyl.
Ond beth os yw profedigaeth yn golygu mai galar yw’r prif emosiwn rydych chi’n ei deimlo dros y Nadolig? Sut mae ‘dathlu’ wedyn? Dair blynedd yn ôl, fe wnaeth fy eglwys ddarganfod ‘Blue Christmas’, sef gwasanaeth Americanaidd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n teimlo’n isel ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Rydym yn cynnal llawer o angladdau yn ystod y flwyddyn, felly fe wnaethom ni benderfynu cynnal fersiwn Anglicanaidd i ddiwallu anghenion y rhai a oedd yn teimlo eu bod ar gyrion y dathlu tymhorol yn sgil eu galar.
Newidiwyd yr enw i ddechrau. Roedd cysylltiadau ‘Blue Christmas’ ag Elvis ddim yn taro’n iawn. Felly fe newidion ni’r enw i Noson Hiraf a dewis ei gynnal ar noson hiraf y flwyddyn, 21 Rhagfyr.
Mae’r gwasanaeth ei hun yn syml iawn – cymysgedd o garolau (rhai penillion weithiau) a darlleniadau i adrodd stori’r Nadolig; gweddïau sy’n cydnabod poen a gwacter ochr yn ochr â’r gobaith Cristnogol; myfyrdod sy’n sôn yn dyner am olau mewn tywyllwch. Rydym yn cadw hyd y gwasanaeth i 40 munud ar y mwyaf, ac yn cynnwys adegau tawel, gan beidio â rhuthro i lenwi pob eiliad gyda gair neu gân. Rydym hefyd yn aros ar ein heistedd drwy’r gwasanaeth, i osgoi unrhyw deimladau lletchwith o beidio â gwybod pryd i sefyll.
Wrth i bobl gyrraedd, mae pob un yn cael taflen wasanaeth gyda’r holl eiriau a’r cyfarwyddiadau, a channwyll. Bydd cerddoriaeth dawel yn chwarae am 10/15 munud cyn yr amser cychwyn gyda’r arweinydd yn ei le i greu awyrgylch tawel a diogel.
Pan mae’r gwasanaeth ar fin dechrau rydym yn gwahodd pobl i osod eu cannwyll ger ein golygfa o’r geni fel symbol o’r tywyllwch maen nhw’n ei gario. Tua’r diwedd, fe’u gwahoddir i oleuo’r gannwyll fel arwydd bod golau Crist yn cynnig gobaith hyd yn oed yn y nos dywyllaf. Nid oedd unrhyw bwysau i bobl ddod â channwyll neu i’w goleuo, ond roedd bron pawb yn gwneud yn ddieithriad.
Ychydig o hysbysebu wnaethon ni’r flwyddyn gyntaf ond fe ddaeth pobl – rhai yr oeddem ni’n eu nabod, eraill nad oedd wedi cael unrhyw gysylltiad â’n heglwys o’r blaen. Arhosodd llawer yn eu seddau yn dawel yn yr eglwys ar ôl i ni orffen, ac fe wnaethon ni geisio sicrhau nad oedden nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw ruthro i ffwrdd.
“Dyna wnaeth Nadolig i mi,” meddai un fenyw wrth iddi adael. Roedd iselder ei gŵr wedi tywyllu eu priodas, a’r Noson Hiraf wedi rhoi gobaith iddi am olau i ddychwelyd. Eisteddodd pâr arall yn wylo’n dawel wrth iddyn nhw gofio am deulu a fu farw yn ystod y flwyddyn.
Rydym yn bwriadu cynnal ein trydydd ‘Gwasanaeth y Noson Hiraf’ eleni. Ein braint ni yw cynnig lle lle nad oes rhaid i bobl adael realiti bywyd gyda’i alar a’i boen wrth ddrws yr eglwys ond lle lle y gall eistedd ochr yn ochr â’r gobaith a’r golau sy’n ganolog i’r Nadolig.
Mary Hawes