Pwysigrwydd perthynas dda gyda’r Ymgymerwr
Pan ddaw hi’n amser cefnogi teuluoedd ar adeg o angen, yr un fydd nod Ymgymerwyr a chlerigion. Bydd partneriaeth dda ac ymrwymiad i arferion gorau yn arwain at angladdau gwell, ac yn sylfaen ar gyfer meithrin perthynas hirdymor â theuluoedd.
Mae bron yn amhosibl goramcangyfrif pwysigrwydd y berthynas rhwng y rhai sy’n cymryd angladdau a’r Ymgymerwyr. Mae ymchwil annibynnol yn dangos yn glir bod Ymgymerwyr yn bwysig i’r rhai sy’n galaru, maen nhw’n ymddiried yn eu cyngor ac yn gwerthfawrogi eu cymorth. Yn y pen draw, mae’r Ymgymerwr yn ymddiried y rhan fwyaf cyhoeddus a gweladwy o’u busnes i’r sawl sy’n cynnal y seremoni.
Mae Ymgymerwyr am gael gweinydd sy’n:
- Diwallu anghenion y teulu
- Hawdd i weithio gydag ef neu hi, sy’n golygu bod ar gael a chanolbwyntio ar y cwsmer.
Yn anffodus, datgelodd ymchwil ymhlith ymgymerwyr fod gan glerigion Anglicanaidd enw gwael am fod yn ddi-drefn yn aml iawn, am wneud camgymeriadau gwael ac am fynnu cadw at reolau’n rhy gaeth, gan ddieithrio a brifo teuluoedd weithiau.
Fodd bynnag, y newyddion da yw bod ansawdd y berthynas rhwng y clerig Anglicanaidd neu’r darllenydd lleyg lleol mewn angladd a’r Ymgymerwr yn gallu gwneud gwahaniaeth anferth.
Mae pethau wedi newid yn aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf, a bellach un dewis ymhlith nifer yw clerigion a gweinidogion lleyg yr Eglwys yng Nghymru, felly mae’n bwysig iawn bod clerigion a gweinidogion lleol yn buddsoddi yn y bartneriaeth hon ac yn dangos ei bod yn cael ei gwerthfawrogi.
Dyma rai syniadau ymarferol:
- Gwahoddwch Ymgymerwyr i ddigwyddiadau trwyddedu a digwyddiadau pwysig eraill ym mywyd yr eglwys. Ewch ati i gynnwys eu gwaith yn eich cylch o weddïau.
- Gwnewch yn siŵr fod eich Ymgymerwr lleol a’i staff yn deall popeth y mae angladd yr Eglwys yng Nghymru yn ei gynnig. Mae hyn yn golygu sicrhau eu bod yn gwybod y byddwch yn fodlon cynnal angladdau mewn amlosgfa ac mewn claddfa werdd, ond hefyd fod yr eglwys ar gael i deuluoedd.
- Gofynnwch iddyn nhw am adborth – fe fyddan nhw wedi gweld mwy o angladdau na bron pawb arall.
- Cymerwch amser i ddod i’w hadnabod nhw ac i ddod yn ymwybodol o’u pryderon, gan gynnig gofal bugeiliol os oes angen.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pryd na fydd clerigion a gweinidogion eraill ar gael, ac â phwy i gysylltu os oes angen rhywun arnyn nhw
- Rhowch rifau ffôn symudol a dulliau cysylltu eraill iddyn nhw.