Cyflwyno menter ‘GraveTalk’
Mae bob amser yn anodd sgwrsio am farwolaeth, marw ac angladdau, a hyd yn oed yn fwy felly pan mae’n fater personol. Fodd bynnag, mae yna arwyddion bod y tabŵ hwn yn cael ei herio dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r her hon yn cael ei gyrru gan ddemograffeg yn rhannol: mae’r genhedlaeth a elwir y ‘baby boomers’ (1946-1955) yn cyrraedd y cyfnod mewn bywyd lle mae marwolaeth yn nesáu. Dros y blynyddoedd mae’r genhedlaeth hon wedi bod yn cwestiynu a herio sefydliadau ac awdurdod, gan ddyheu am fod yn wreiddiol a chreadigol o bosibl. Fel y dywedodd rhywun: “Dydy’r genhedlaeth a greodd Woodstock ddim yn mynd i ‘lithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’”.
Mae arwyddion bod y tabŵ’n cael ei gwestiynu’n cynnwys gwneud rhaglenni dogfen fel ‘My last summer’ (Channel 4), datblygiad Gwyliau Marwolaeth (Southbank, a llwyddiant y mudiad llawr gwlad – Caffi Marwolaeth (Death Café). Yr hyn yw Caffi Marwolaeth yw lle i bobl fwynhau tamaid o gacen a siarad am farwolaeth, weithiau mewn caffi go iawn neu weithiau mewn cartref neu le cyfarfod arall. Mae oedolion ifanc yn ogystal â phobl hŷn yn sylweddoli bod yna lawer i’w ddweud am y realiti sensitif ond pwysig hwn ar ôl iddyn nhw ddechrau siarad.
Mae’r Eglwys mewn lle da i fod yn rhan o’r momentwm hwn. Ers canrifoedd rydym wedi cynnal profiadau a meddyliau pobl am farw, marwolaeth, angladdau a phrofedigaeth yn llythrennol ac yn drosiadol. Yn fugeiliol, rydym yno i bobl wrth iddyn nhw wynebu marwolaeth ac yno iddyn nhw wrth iddyn nhw gynllunio angladdau a galaru. Mae gennym ddigon o le hefyd a gallwn wneud paned a chacen heb eu hail.
Mae GraveTalk ar ffurf caffi gyda chyfle yno i siarad am farwolaeth, marw ac angladdau. Mae’n cael ei drefnu gan yr eglwys leol a gellir ei gynnal mewn neuadd, cartref neu gaffi go iawn. Mae pecyn o gwestiynau GraveTalk yn cael ei ddosbarthu ym mhob digwyddiad – mae yna 52 o gwestiynau agored wedi’u hysgrifennu’n arbennig i gael pobl i siarad am farwolaeth, marw, angladdau a cholled. Does dim atebion, dim ond sgwrs. Ac mae’n agored i bobl o bob ffydd ac amheuon.
Mae cysyniad ac adnoddau GraveTalk wedi’u profi’n ofalus gyda phlwyfi mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Stafford.
Tîm Prosiect Digwyddiadau Bywyd