Gwahodd pobl i Wasanaethau Coffa
Ac eithrio’r Nadolig, Sul y Cofio sy’n denu rhai o gynulleidfaoedd mwyaf yr eglwys.
I lawer, bydd hyn yn cynnwys bod mewn digwyddiadau i gofio Diwrnod y Cadoediad. Boed yn wasanaeth ger cofeb leol dan arweiniad gweinidog neu ddigwyddiad mawr mewn eglwys gadeiriol, bydd llawer o’r rhai sy’n bresennol yn ‘dychwelyd’ i’r eglwys. Bydd llawer mwy’n mynychu gwasanaethau ‘cofio’ adeg Gŵyl yr Holl Eneidiau, gan dreulio amser yn meddwl am y rhai maen nhw’n galaru amdanynt mewn ffordd fwy personol.
Dangosodd gwaith ymchwil Digwyddiadau Bywyd fod teuluoedd yn gwerthfawrogi mynychu’r mathau hyn o ddigwyddiadau fel rhan o’u cysylltiad ag eglwys, a’i fod yn gallu bod yn gam arall ar daith ffydd. I deuluoedd sy’n galaru, gall lle i fyfyrio fod o fudd mawr, waeth a fu’r gweinidog lleol yn cynnal gwasanaeth angladdol diweddar, neu am eu bod yn cofio rhywun a ddylanwadodd ar eu bywyd flynyddoedd lawer ynghynt.
Mae’r Gwir Barchedig Stephen Lake, Deon Caerloyw yn myfyrio ar sut gallai goleuo cannwyll, neu oedi mewn tawelwch, flwyddyn ar ôl blwyddyn, helpu pobl:
“Rwy’n credu y bydd pobl yn dod, ac yn dod eto, yna’n dod yn rhan o stori’r eglwys a stori Iesu, ac yn cymryd rhan mewn ffyrdd nad ydym yn eu gweld yn aml iawn.”
Dangosodd ymchwil gyda theuluoedd bedydd hefyd fod Sul y Cofio yn un o’r achlysuron pan fydd rhieni’n ceisio dod â’u plant i’r eglwys, a bod llawer mwy yn dod fel rhan o sefydliadau lifrai.
Soniodd un tad yn ddirdynnol am ei atgofion o wasanaethau mawr mewn eglwys gadeiriol leol, yr ymdeimlad o ryfeddod a brofodd, a’i ddymuniad i’w blentyn gael yr un profiad. Mae cymryd amser i wahodd teuluoedd, rhoi croeso da iddyn nhw, rhoi lle iddyn nhw archwilio eu taith ffydd a gweddi eu hunain i gyd yn bwysig. Byddwch yn ddewr! Dim ond eu gwahodd sydd raid.
Y Tîm Digwyddiadau Bywyd