Dewch i gwrdd â Gweinydd Angladdau llawn amser
Chwe blynedd yn ôl, cyn i mi gymryd ymddeoliad cynnar o fod yn ddeintydd, ro’n i wedi bod yn gofyn i Dduw, ‘beth nesaf?’ Ro’n i’n gwybod bod yna bosibilrwydd y gallai pobl, yn enwedig pobl yr eglwys, ddweud ‘nawr dy fod ti wedi ymddeol allet ti…?’ Un o’r prif bethau sydd wedi cynnal fy mywyd Cristnogol yw treulio amser gyda phobl y tu allan i’r eglwys mewn llefydd anodd: mewn carchardai a llochesi i’r digartref, er enghraifft. Felly doedd dim syndod mawr mod i wedi cymryd angladd yn fy eglwys (rwy’n Ddarllenydd) ar ddiwrnod cyntaf fy ymddeoliad. Fe gymerais angladd ar yr ail ddiwrnod hefyd. Roedd hi’n edrych fel pe bai Duw yn dweud rhywbeth wrthyf.
Rai blynyddoedd ynghynt ro’n i wedi cyfarfod Gweinydd Angladdau ac roedd hi’n ymddangos bod Duw yn fy ngalw i i’r rôl hon. Fe es i draw at yr Ymgymerwyr lleol - ro’n i’n nabod llawer ohonyn nhw o angladdau’r eglwys - ac yn fuan ro’n i’n cymryd tri neu bedwar angladd yr wythnos fel Gweinydd o Gristion. Fe wnes i gyfarfod â Christion arall oedd yn gwneud y gwaith hwn hefyd. Mae hi’n perthyn i Fyddin yr Iachawdwriaeth ac fe roddodd lawer o anogaeth i mi. Roedd fy ficer yn deall fy mod i’n credu bod hon yn alwad, ond ro’n i’n teimlo mod i’n ceisio cyfeiriannu heb fap. Penderfynais astudio MA mewn Litwrgi ac yna ysgrifennu Llyfryn Grove (W 224 The Challenge of the Funeral Celebrant: A Mission Opportunity for the Church <http://grovebooks.co.uk/products/w-224-the-challenge-of-the-funeral-celebrant-a-mission-opportunity-for-the-church>).
Pam ydw i wedi adrodd fy stori’n fanwl? Yn syml, er mwyn dangos mod i’n credu bod Duw wedi fy ngalw i ddod â phresenoldeb Cristnogol i fywydau pobl. Mae’r angladdau rydw i’n eu cymryd yn rhai a fyddai’n mynd fel arall i Weinydd arall, ac nid i weinidog Cristnogol. Mae byd Gweinyddion Angladdau yn ehangu’n gyflym ac yn cynnwys llawer o opsiynau sydd ddim yn rhai Cristnogol, fel angladdau i ddyneiddwyr, anffyddwyr a llu o ddewisiadau eraill sy’n cynnig rhyw fath o ysbrydolrwydd gwahanol. Er mwyn gwneud y gorau o bob cyfle, rydym ni angen Cristnogion hyfforddedig sydd wedi’u gwreiddio yng nghymdeithas eu heglwys leol i wneud y gwaith hwn.
Mae angen hyn arnom er mwyn dangos cariad Crist i’r rheini sydd wedi dioddef profedigaeth, ac er mwyn rhannu gobaith yr Efengyl gyda nhw.
Dros y chwe blynedd diwethaf, rwy’n gwybod fy mod i wedi gwneud camgymeriadau, rwy’n gwybod fy mod i ar daith o ddarganfod, ond rwy’n gwybod bod y ffaith mod i’n Ddarllenydd wedi rhoi’r sgiliau i mi wneud y gwaith. Byddai’n wych cael cwmni Cristnogion lleyg eraill sy’n teimlo galwad i wneud y gwaith hwn.
Alan Stanley