Cyfarfod y teulu
Yn ystod y cyfnod cynnar o geisio dod i delerau â marwolaeth, bydd teuluoedd yn awyddus i drefnu angladd sy’n cofio bywyd unigryw y sawl a fu farw. Mae’n amser hefyd i alaru, i ffarwelio, a dod o hyd i gysur a gobaith.
Mae teuluoedd am i angladdau ddathlu bywyd rhywun roedden nhw’n ei adnabod a’i garu ac am iddyn nhw gynnwys elfennau personol sy’n cydnabod bywyd unigryw. Ond mewn amser o sioc a gofid, mae teuluoedd angen lle i fynegi eu galar eu hunain hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth y gellir ei anghofio. Mae cyfathrebu da rhwng yr eglwys a’r Ymgymerwr yn hanfodol yn y cam hwn i helpu i gydbwyso’r anghenion hyn. Cyn gynted â phosibl ar ôl siarad â’r Ymgymerwr, bydd y gweinidog a fydd yn cymryd yr angladd yn cysylltu â’r teulu, ac yn trefnu ymweliad fel arfer.
Ar y ffôn
- Bydd galwad ffôn yn fuan ar ôl y farwolaeth, a ddaw gyda chydymdeimlad, dealltwriaeth a sicrwydd y bydd yr eglwys yno iddyn nhw bob cam o’r ffordd, yn gwneud i’r teulu deimlo bod pobl yn malio amdanyn nhw a byddant yn cael cysur yn hyn.
- Gwiriwch enwau ar y pwynt hwn ac os oes dewisiadau wedi’u gwneud eisoes drwy’r Ymgymerwr, dylech eu cadarnhau.
- Eglurwch bwrpas yr ymweliad a gofynnwch pryd sy’n gyfleus iddyn nhw.
Yn yr ymweliad
Dyma gyfle i wneud y canlynol:
- Cynnig cydymdeimlad personol eto.
- Gwrando. Mae siarad am amgylchiadau’r farwolaeth yn therapiwtig i’r teulu’n aml - gwrandewch ar beth ddigwyddodd os ydyn nhw am siarad am hynny.
- Dangoswch ofal a diddordeb ym mywyd unigryw y person sydd wedi marw. Cyfeiriwch at y person yn ôl ei enw bob amser, nid ‘yr ymadawedig’ neu ‘eich anwylyd’, gan fod hyn yn amhersonol. Gofynnwch a oedd ganddyn nhw lysenw neu enw wedi’i dalfyrru, ac a fyddai’n briodol ei ddefnyddio yn yr angladd.
- Trafodwch y gwasanaeth, gan eu helpu i wneud dewisiadau fel y bo’n briodol. Bydd llawer o deuluoedd yn gwneud dewisiadau traddodiadol, ond byddwch mor hyblyg ag y gallwch chi. Eglurwch beth yw diben angladd – i ffarwelio, i ddiolch, i gyflwyno rhywun i ofal Duw. Mae helpu’r teulu i deimlo eu bod wedi cyfrannu at y gwasanaeth yn allweddol dros ben.
- Cadarnhewch eu dewisiadau – arch, lleoliad, blodau, cerddoriaeth a/neu emynau. Mae hyn i gyd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu’r person unigryw yr oedd Duw yn ei garu ac wedi’i greu.
- Siaradwch am y deyrnged a/neu’r anerchiad – gan ddweud eu stori, dweud stori Duw, cynnig cymorth i ddewis darlleniadau o’r Beibl yn ogystal â darlleniadau eraill, fel y bo’n briodol.
- Dysgwch am y person a fu farw. Os yw aelod o’r teulu am roi’r deyrnged, dylech barhau i gasglu amlinelliad o fywyd a diddordebau’r person fel y gallwch wneud cysylltiadau sy’n gwneud y gwasanaeth yn bersonol iawn yn y gweddïau ac ar adegau eraill. Bydd hobïau, diddordebau, gwahanol nodweddion personoliaeth, hanesion, y pethau oedd yn bwysig iddyn nhw, i gyd yn helpu.
- Rhannwch ddealltwriaeth a gwybodaeth ymarferol, efallai am beth mae eraill wedi’i wneud.
- Dywedwch wrth y teulu fod yr eglwys yn gweddïo drostyn nhw.