Perthynas rhwng clerigion ac ymgymerwyr
Ar hyn o bryd rwy’n Ficer Tîm yn Swydd Gaerloyw, ond fe fues i’n ymgymerwr angladdau am wyth mlynedd ar hugain gan redeg fy musnes fy hun yng Ngwlad yr Haf. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe fues i’n gadeirydd rhanbarthol i Sefydliad Ymgymerwyr Angladdau Prydain.
‘Allwch chi gymryd angladd brynhawn ddydd Mercher nesaf am 2.00pm yn yr amlosgfa?’ Tybed faint o glerigion sydd wedi derbyn galwad ffôn o’r fath gan eu hymgymerwr lleol?
Fodd bynnag, mae yna lawer mwy i’r cais hwn. Fel rheol, yr ymgymerwr yw'r person cyntaf y bydd y teulu yn cysylltu ag ef pan fyddan nhw wedi cael profedigaeth. Mae’n debyg na fyddan nhw wedi trefnu angladd o’r blaen ac na fyddan nhw’n gwybod beth na sut mae pethau’n cael eu trefnu. Felly bydd ymgymerwr doeth yn treulio amser gyda’r cleient ac yn ceisio cael darlun o’i ddymuniadau.
Yn achos llawer o deuluoedd, efallai nad yw eu perthnasau’n byw’n lleol, yn wir mae llawer mwy yn byw neu’n gweithio dramor erbyn hyn ac mae’n gallu bod yn anodd ceisio trefnu i bawb fod yn yr un lle ar yr un pryd. Cyn cyfarfod yr ymgymerwr, byddai’r rhan fwyaf o deuluoedd wedi cael sgyrsiau â’u perthnasau ac wedi trafod amser a dyddiad cyfleus. Felly, o dan rai amgylchiadau, mae’r cleient yn dweud wrth yr ymgymerwr pryd ddylai’r angladd gael ei gynnal (fel arfer ar ddydd Gwener, ar ddiwrnod bant y ficer!).
Y ffaith arall yw y bydd gan yr ymgymerwr nifer o angladdau eraill i’w trefnu mae’n debyg ac mae ceisio cydgysylltu staff, cerbydau, amlosgfeydd, clerigion, mynwentydd, heb sôn am yr holl waith papur sy’n angenrheidiol, yn gallu bod yn hunllef logistaidd heb sôn am geisio cyflawni dymuniadau’r cleient.
Dyma fy mhum prif awgrym ar gyfer clerigion a threfnwyr angladdau:
- Dylai ymgymerwyr gysylltu â gweinidogion, lle bo’n bosibl, cyn gwneud unrhyw drefniadau pendant am yr angladd.
- Ar ôl i drefniadau gael eu gwneud, dylid anfon cadarnhad ysgrifenedig, ac mae hyn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd gan y clerigion yn gywir ac yn ffurfio ‘contract’. Mae hefyd yn ddefnyddiol i’r ymgymerwr gan ei fod yn nodi’n glir beth mae’r person sy’n cymryd y gwasanaeth yn ei ddisgwyl (h.y. pwy sy’n trefnu’r organydd, marcio’r bedd ac ati).
- Dylai clerigion hysbysu ymgymerwyr pryd maen nhw i ffwrdd am gyfnod o amser ac â phwy y dylid cysylltu yn eu habsenoldeb.
- Dylai clerigion ymweld a chynnal rhywfaint o gyswllt bugeiliol ag ymgymerwyr (pwy sy’n gofalu am y gofalwyr?).
- Yn anad dim, mae cyfathrebu’n hollbwysig. Os oes unrhyw beth perthnasol y dylai’r naill barti neu’r llall ei wybod, fe ddylen nhw gysylltu â’i gilydd.
Yn y bôn, yr hyn sy’n bwysig yw bod perthynas dda rhwng ymgymerwyr a gweinidogion. Os yw’r naill yn dod i wybod sut mae’r llall yn gweithio, bydd hyn o fudd i’r rhai y byddan nhw’n eu gwasanaethu.
Richard Reakes