Cefnogi’r rhai sy’n galaru adeg y Nadolig
O ganol fis Tachwedd, mae siopau, y cyfryngau a’r byd hysbysebu yn cydgynllwynio i’n darbwyllo bod y Nadolig yn hudol, yn llawn llawenydd a boddhad. Mae pryderon bywyd yn cael eu bwrw o’r neilltu ac mae lluniau o blant yn chwerthin yn atgyfnerthu’r neges nad oes lle i dristwch a gorbryder yn nathliadau’r ŵyl.
Ond beth os yw profedigaeth yn golygu mai galar yw’r prif emosiwn rydych chi’n ei deimlo dros y Nadolig? Sut mae ‘dathlu’ wedyn? Dair blynedd yn ôl, fe ddaeth fy eglwys ar draws ‘Blue Christmas’, gwasanaeth Americanaidd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n teimlo’n isel yn ystod y tymor hwn. Rydym yn cynnal llawer o angladdau yn ystod y flwyddyn, felly fe wnaethom ni benderfynu cynnal fersiwn Seisnig i ddiwallu anghenion y rhai a oedd yn teimlo eu bod ar gyrion y dathlu tymhorol am eu bod mewn galar.
Newidiwyd yr enw i ddechrau. Roedd cysylltiadau Elvis â ‘Blue Christmas’ ddim yn taro deuddeg rywsut. Felly fe newidion ni’r enw i “Y Noson Hiraf” a dewis ei gynnal ar noson hiraf y flwyddyn, sêr yr 21ain o Ragfyr.
Mae’r gwasanaeth ei hun yn syml iawn – cymysgedd o garolau (rhai penillion weithiau) a darlleniadau i adrodd stori’r Nadolig; gweddïau sy’n cydnabod poen a gwacter ochr yn ochr â’r gobaith Cristnogol; myfyrdod sy’n sôn yn dyner am olau mewn tywyllwch. Dydy’r gwasanaeth yn ddim hirach na 40 munud, ac yn cynnwys adegau tawel, heb ruthro i lenwi pob eiliad gyda gair neu gân. Rydym hefyd yn aros ar ein heistedd drwy’r gwasanaeth, i osgoi unrhyw deimladau lletchwith o beidio â gwybod pryd i sefyll.
Wrth i bobl gyrraedd, mae pob un yn cael taflen gyda’r holl eiriau a’r cyfarwyddiadau, ynghyd â channwyll. Bydd cerddoriaeth dawel yn chwarae am 10/15 munud cyn yr amser cychwyn gyda’r arweinydd yn ei le i greu awyrgylch tawel a diogel.
Pan mae’r gwasanaeth ar fin dechrau rydym yn gwahodd pobl i osod eu canhwyllau ger ein golygfa o’r geni fel symbol o’r tywyllwch maen nhw’n ei gario. Tua’r diwedd, rydym yn eu gwahodd i oleuo’r gannwyll fel arwydd bod golau Crist yn cynnig gobaith hyd yn oed yn y noson dywyllaf. Doedd dim pwysau ar i bobl ddod â channwyll neu i’w goleuo, ond roedd bron pawb yn gwneud yn ddieithriad.
Ychydig o hysbysebu wnaethom ni’r flwyddyn gyntaf ond fe ddaeth pobl - rhai yr oeddem ni’n eu hadnabod, eraill nad oedd wedi cael unrhyw gysylltiad â’n heglwys o’r blaen. Arhosodd llawer yn eistedd yn dawel yn yr eglwys ar ôl i ni orffen, ac fe wnaethom ni geisio gwneud yn siŵr nad oedden nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw ruthro i ffwrdd.
“Dyna oedd y Nadolig i mi,” meddai un fenyw wrth iddi adael. Roedd iselder ei gŵr wedi tywyllu eu priodas, a’r Noson Hiraf wedi rhoi gobaith iddi y byddai’r golau’n dychwelyd. Eisteddodd pâr arall yn wylo’n dawel wrth iddyn nhw gofio am deulu a fu farw yn ystod y flwyddyn.
Ein braint ni yw cynnig gofod – man nad oes rhaid i bobl adael realiti bywyd gyda’i alar a’i boen wrth ddrws yr eglwys, man lle y gall eistedd ochr yn ochr â’r gobaith a’r golau sy’n ganolog i’r Nadolig.
Mary Hawes