Cefnogi teuluoedd yn y dyddiau a’r wythnosau ar ôl yr angladd
Bydd gan bobl deulu a ffrindiau o’u hamgylch yn aml yn fuan ar ôl angladd ond mae eglwys sy’n aros mewn cysylltiad yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyswllt yn y dyfodol. Mae’r adran hon yn cynnwys cyfleoedd ymarferol a bugeiliol ar gyfer cefnogi pobl yn y dyddiau a’r wythnosau yn syth ar ôl angladd.
Efallai y bydd ffrindiau, cymdogion a theulu yno i’w gilydd yn yr wythnosau yn syth ar ôl angladd, ond gall anghenion a chwestiynau dyfnach godi wrth i amser fynd rhagddo. Hefyd, efallai na fydd y teulu’n gwybod beth sy’n digwydd nesaf o ran y llwch, na chwaith fod yr eglwys yn gallu bod yn rhan o hyn. Mae’n bwysig bod ar gael iddyn nhw a dangos gofal parhaus yr eglwys; ni fydd gweinyddion sifil ac annibynnol ar gael i gynnig hyn fel arfer.
Efallai y bydd y teulu yn gwerthfawrogi ymweliad ‘sut ydych chi’, ond mae yna ffyrdd eraill i ddangos eich bod chi’n malio:
Llwch
- Os yw teulu wedi dewis amlosgi dylech eu hatgoffa y gallwch fod yno iddyn nhw pan fydd y llwch yn cael ei wasgaru.
- Gall y litwrgi fod yn syml ond dylai gynnig neges o obaith a chysur.
- Gall cadw mewn cysylltiad a chynnig bod yno pan fydd y llwch yn cael ei wasgaru gynnwys gofalu bod y teulu wedi casglu’r llwch. Mae Ymgymerwyr yn aml yn dweud nad yw llwch yn cael ei gasglu a gallwch gefnogi’r teulu a’r Ymgymerwr trwy wirio bod y llwch yn cael ei roi i orffwys neu ei wasgaru.
DS: Efallai y bydd rhai teuluoedd yn cadw’r llwch yn eu cartrefi yn yr wythnosau ar ôl yr angladd. Gall hyn fod yn rhan o broses alaru, gan ddal gafael ar y teimlad bod y person yn dal yno mewn rhyw ffordd. Wrth i amser fynd heibio, gall y llwch symud o’r silff ben tân i rannau llai gweladwy o’r tŷ. Sylwch ar hyn pan fyddwch chi’n ymweld, gan y gall fod yn ysgogiad ar gyfer gofal bugeiliol dros amser, ac yn sbardun i gael sgwrs am y man gorffwys terfynol pan mae’r teulu’n barod.
Cymorth bugeiliol
- Tua mis ar ôl yr angladd bydd cardiau cydymdeimlo’n cael eu tynnu i lawr a negeseuon o gymorth yn dechrau lleihau. Mae’n amser da i sicrhau’r teulu o gefnogaeth barhaus yr eglwys. Gellir defnyddio cerdyn arbennig ar gyfer hyn.
- Mae yna gyfres o gardiau eraill ar gael hefyd y gellir eu hanfon at y teulu wrth i amser fynd heibio, er enghraifft mis ar ôl yr angladd, blwyddyn, dwy flynedd. Mae un enghraifft uchod sy’n dangos dwy ochr y cerdyn. Maen nhw’n cynnig myfyrdodau, gweddïau a chefnogaeth barhaus yr eglwys. Does dim rheolau pendant ynghylch pryd i’w hanfon - bydd yn amrywio yn ôl y gwahanol deuluoedd.
- Os oes gan eich eglwys dîm bugeiliol sydd wedi cael eu hyfforddi mewn cymorth galar, gall hwn fod yn amser da iddyn nhw ymweld â’r teulu a chyflwyno eu hunain.
- Cofiwch efallai fod ffrindiau a chymdogion yn galaru hefyd, ac y gallai marwolaeth ddiweddar ddwyn i gof colledion eraill a brofwyd dros y blynyddoedd.