Siarad am farwolaeth: Cyflwyno Gravetalk
Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd newid diwylliannol mawr yn ein hagweddau tuag at siarad am farwolaeth. Mae bron dau draean o bobl dros 50 oed yn dweud eu bod yn hapus i siarad am eu dymuniadau angladdol [Mintel 2014] a dim ond un o bob pump sy’n dweud na fyddent am siarad am angladd gan ei fod yn fater preifat.
Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd cynnydd mewn llefydd tebyg i gaffis ar gyfer sgyrsiau [e.e. Death Café], a rhaglenni dogfen, dramâu a chomedïau sy’n trafod marwolaeth, marw ac angladdau yn gwbl onest. Yn weddol ddiweddar, cafwyd rhaglen gomedi yn yr oriau brig, ‘Car Share’ [BBC1] gyda Peter Kay, a oedd yn cynnwys sgwrs hir am gynllunio angladdau – pwnc na fyddai wedi cael ei drafod ddegawd yn ôl. Ond er bod diwylliant yn symud o hyd, a’r tabŵ ynghylch angladdau’n cael ei herio, mae’r eglwys yn gallu bod yn rhyfedd o dawel, boed yn y pulpud neu yn y gymuned.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cytunodd esgobaeth Caerlwytgoed i dreialu dull newydd. Ymgasglodd 60 o bobl leyg ac ordeiniedig un bore yn Stafford i feddwl am sut i gael pobl i siarad am farwolaeth, marw ac angladdau. Fe aethon nhw i ffwrdd i roi cynnig ar gysyniad newydd: GraveTalk, gyda 35 plwyf yn trefnu digwyddiadau ar ffurf caffi. Mae pob digwyddiad yn golygu trefnu lle i edrych fel caffi, sy’n gweini lluniaeth. Mae pobl yn eistedd mewn grwpiau bach o gwmpas y byrddau. Mae sgyrsiau’n cael eu dechrau drwy becyn o 52 cwestiwn a luniwyd yn arbennig sy’n rhoi sylw i ystod eang o bynciau, yn amrywio o agweddau at farwolaeth i brofiadau personol.
Nid oes atebion, dim ond lle i siarad. Mae hwyluswyr, lleyg neu ordeiniedig, yn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddidrafferth – ac mae ‘paned a chacen’ ar gael bob tro. Ymchwiliwyd y treial hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Stafford, ac roedd y canlyniadau’n gadarnhaol iawn: pan fyddwn ni’n neilltuo amser a lle, fe wnaiff pobl siarad.
Dywedodd un ficer a dreialodd GraveTalk:
“Fe rois i o iddyn nhw a mynd i wneud coffi pan ddechreuon nhw drafod. A do'n i ddim yn gallu rhoi taw arnyn nhw. Pan ofynnais i iddyn nhw ddod â phethau i ben, roedden nhw am gario mlaen. Roedden nhw wrth eu boddau. Cefais fy synnu a’m rhyfeddu.”
Gall cwestiynau GraveTalk fod yn dwyllodrus o syml, fel “beth mae cysegrfan ar ochr ffordd yn ei olygu i chi?” i gwestiynau am farw, galar ac am y nefoedd. Mae profiad wedi dangos bod y rhai y tu allan i’r eglwys yn awyddus i gychwyn arni – tra bod clerigion a darllenwyr lleyg wedi bod yn fwy petrusgar. Ac eto, mae’r ymchwil a wnaed gennym yn glir iawn: mae gennym gyfle unigryw i gefnogi’r sgwrs sy’n datblygu am farwolaeth.
Mae gennym ni brofiad aruthrol o gynnal angladdau dros genedlaethau lawer. Bob wythnos eleni bydd Eglwys Loegr yn cynnal tua 3,200 o angladdau, sy’n ein rhoi ni mewn cysylltiad â thua 200,000 o bobl sy’n mynychu angladd bob wythnos. Fel arweinwyr eglwysig a chymdogion rydym yn gwybod sut beth yw bod yno i bobl yn ystod taith hir galar, taith sy’n unigryw i bob person sydd wedi’i effeithio gan farwolaeth. Mae’r eglwys hefyd wedi hen arfer ymdrin â’r cwestiynau mawr am fywyd a marwolaeth sy’n aml yn cael eu hysgogi gan ddigwyddiadau bywyd. Gallwn fod yn gwmni i bobl wrth iddyn nhw bwyso a mesur a meddylu, lle bynnag fydd hynny’n mynd â nhw.
Ond dydyn ni ddim wastad wedi bod yn dda wrth arloesi ac arbrofi gyda chyfleoedd. Ond mae yna newid ar droed. Dyma’r awr y mae pobl yn barod i siarad am farwolaeth, yn barod i gynllunio am angladd, yn barod i feddwl am faterion ymarferol ac emosiynol. Roedd Wythnos Ymwybyddiaeth o Farwolaeth yr wythnos diwethaf, a drefnwyd gan Dying Matters Coalition (yr ydym yn bartner ynddo), yn gyfle i’r eglwys siarad yn ddewr, pregethu o’r pulpud, a rhoi cyfle i bobl sgwrsio.
Y Parchedig Ddr Sandra Millar