Deall Galar
Cyflwyniad
Mae galar yn gymaint rhan o fywyd ag yw cariad. Mae wedi ei wau’n ddwfn drwy ein holl fodolaeth. Gallech hyd yn oed ddweud ei fod yn ‘naturiol’, er bod hynny’n teimlo’n anghywir. Mae’r profiad o alar mor ddryslyd, rhyfedd ac abnormal fel nad oes unrhyw beth yn naturiol amdano. Yr unig beth ‘naturiol’ yw bod pawb yn ei brofi, ar ryw adeg yn ein bywydau, gan ein taflu ni oddi ar ein llwybr ‘normal’ drwy fywyd, nes ein bod ni’n ofni na fydd unrhyw beth yn normal fyth eto. Er hyn, mae llawer o’r byd gorllewinol modern wedi colli iaith galar: rydym yn cael trafferth wrth wybod sut i siarad amdano ein hunain neu, yn wir, sut i siarad yn iawn ag eraill sydd yng nghanol profedigaeth. Mae pobl yn amrywio o beidio â dweud unrhyw beth o gwbl i ddweud rhywbeth hynod amhriodol.
Mae’n hawdd - ac yn anghywir - dweud bod galar yn llai poenus i bobl a oedd yn byw, neu sy’n byw mewn llefydd lle'r oedd marwolaeth ac y mae marwolaeth yn fwy cyffredin; bod y bobl hyn wedi ‘arfer’ mwy â marwolaeth a cholled. Does dim tystiolaeth bod llawer o alar yn gwneud y profiad yn haws neu’n ei gwneud hi’n haws ymdopi ag ef. Yr hyn y gwelir, mewn cyd-destunau o’r fath, yw bod iaith galar a’r defodau o’i amgylch yn dod yn fwy datblygedig. Mae’r galar yn dal i fod yr un mor ddwys, ond mae yna eiriau i’w dweud, gweithredoedd i’w gwneud sy’n mynegi’r emosiwn mewn ffordd sydd wedi’i golli mewn sawl rhan o’r byd gorllewinol modern.
Mae’r Beibl yn enghraifft dda o ddiwylliant sydd mewn cytgord â galar. Mae’n bosibl olrhain amrywiol fynegiannau gwahanol o golled a galar drwy ei dudalennau. Mae llawer o’r rhain yn straeon am golli anwyliaid ond mae yna themâu eraill hefyd. Mae yna straeon am alar wrth i elyn farw; straeon am fenywod sy’n galaru am eu hanallu i gael plant; mynegiannau o ofid ar adegau o drychineb cenedlaethol, a phryder yn ystod cyfnodau o salwch a mathau eraill o ddioddef. Byddwn yn olrhain rhai o’r elfennau hyn isod, gan oedi o bryd i’w gilydd gyda phortreadau o bobl neu ddigwyddiadau sy’n mynegi rhywbeth pwysig mewn ffordd arbennig.
Defodau Galar
Mae’r Beibl yn llawn tystiolaeth o bobl mewn galar am farwolaeth eu hanwyliaid. O Abraham yn Genesis 23.1- 6, yn galaru marwolaeth ei wraig, Sara, yn Hebron, i Joseff yn Genesis 50.1-10, yn wylo am Jacob ei dad, a oedd wedi marw; o Naomi yn galaru am golli ei gŵr yn Ruth 1.12-13, i drallod Job ar ôl colli ei feibion a’i ferched pan ddymchwelodd y tŷ yr oedden nhw ynddo.. O ffrindiau a theulu Jairus a oedd wedi dechrau wylo am farwolaeth merch Jairus hyd yn oed cyn i Iesu gyrraedd i’w hiacháu, i Iesu ei hun a wylodd wrth fedd ei ffrind Lasarus ar ôl ei farwolaeth.
Mae galar i’w weld drwy’r Beibl ar ei hyd, ac mae yna arferion a defodau yn cyd-fynd â’r galar hwnnw. Datblygodd defodau galaru gydol y cyfnod Beiblaidd ac mae’n aml yn anodd gwybod pa mor ddatblygedig oedd rhai o’r arferion yn y cyfnod cynnar. Serch hynny, mae yna elfennau y gellir eu holrhain drwy’r Beibl, hyd yn oed os nad oedden nhw wedi datblygu i’r un graddau mewn llyfrau gwahanol ohono.
Wylofain neu wylo oedd yr arfer amlycaf o alaru yn y Beibl. Yn wir, gellir cyfieithu’r gair a ddefnyddiwyd fwyaf pan roedd pobl yn dechrau galaru fel ‘wylofain’. Mae udo (ululating) - wylofain neu oernadu mewn galar - yn digwydd mewn llawer o ddiwylliannau, hynafol a modern, ar draws y byd ac yn symboleiddio’r poen cignoeth mae pobl yn ei deimlo mewn galar. Byddai pobl yn ymgasglu o bob cwr o’r gymuned i wylofain dros rywun oedd wedi marw. Roedd yr wylofain yn cael ei wneud fel arwydd o barch. Yn wir, yr awgrym yn stori iacháu merch Jairus oedd bod pobl mor argyhoeddedig ei bod wedi marw fel eu bod wedi ymgasglu i ddechrau’r defodau galaru cyn i Iesu gyrraedd hyd yn oed.
Roedd wylofain mor gyffredin yn y byd Beiblaidd fel bod yna alarwyr proffesiynol hyd yn oed (gweler Amos 5.16) a oedd yn cael eu hurio i sicrhau bod yr wylofain yn ddigon uchel mewn angladd.
Nid wylofain oedd yr unig arfer oedd yn gysylltiedig â marwolaethau ac angladdau. Defod drawiadol arall oedd bod pobl yn rhwygo eu dillad ac yn gwisgo sachliain (lliain garw wedi’i wneud o flew gafr ddu) gan rwbio llwch drostyn nhw eu hunain. Daeth hyn yn symbol gweladwy iawn o drallod mewnol ac roedden nhw’n cael eu gwisgo i ddangos galar pan roedd rhywun wedi marw (gweler Genesis 37.34; 2 Samuel 3.31); pryder bod rhywbeth ofnadwy ar ddigwydd (Esther 4.1-4) neu fel arwydd o edifeirwch ac ympryd (Jona 3.5-7; Mathew 11.21).
Roedd wylofain a gwisgo sach liain a lludw’n symbol amlwg a ffisegol iawn o alar. Ni fyddai arferion a defodau galar wedi gadael unrhyw un yn yr henfyd mewn unrhyw amheuaeth bod pobl yn galaru am rywun. Mae’r math hwn o alaru gweladwy iawn ar goll i raddau helaeth o’n diwylliant modern gyda rhai eithriadau nodedig. Un ohonyn nhw yw gosod blodau a theyrngedau eraill wrth ymyl y fan lle bu rhywun farw. Mae’r symbol gweladwy hwn o alar yn gysylltiedig â dymuniad cynhenid i fynegi tristwch mewnol mewn rhyw ffordd ffisegol. Mae felly’n codi’r cwestiwn a oes yna arferion eraill a allai annog symbolau ffisegol o alaru fel ffyrdd o fynegi’r boen fewnol y mae pobl yn ei theimlo.
Nodwedd bwysig arall o’r defodau sy’n gysylltiedig â galar yn y Beibl yw’r amser a roddir i alaru. Mae teitl y papur hwn - Dyddiau o wylo - yn cyfeirio at Genesis 50.4 lle'r oedd Joseff yn wylo am ei dad, ond ar ôl nifer penodol o ddyddiau ei fod wedi dychwelyd i drefn arferol bywyd bob dydd. Cyfeirir at yr arfer yn Llyfr y Pregethwr 3.1-8 hefyd sy’n cyfeirio at dymhorau bywyd (‘amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio’ 3.4). Yr arfer yn y Beibl oedd bod y cyfnod cychwynnol o alaru’n cymryd saith diwrnod, ond 30 diwrnod yn achos arweinydd cenedlaethol (gweler Deuteronomium 34.8). Daeth yr arfer hwn yn fwy cymhleth mewn arferion Iddewig ôl-feiblaidd. Mae yna dri phrif gyfnod o alaru mewn Iddewiaeth erbyn hyn: y saith diwrnod cyntaf ar ôl y claddu, lle bydd galarwyr yn ymweld â chartref y teulu, yn eistedd gyda nhw ac ond yn siarad os yw’r teulu eisiau hynny (gelwir hyn yn shiva eisteddog); y trideg diwrnod ar ôl claddu, lle na fydd galarwyr yn torri eu gwallt nac yn eillio ac yn darllen y Tora neu’r Mishnah gyda’i gilydd, ac os oes rhiant wedi marw, flwyddyn o ddyddiad y farwolaeth, bydd y teulu’n adrodd Kaddish neu weddi’r galarwr yn y synagog.
Nid oes llawer o bobl yn y gymdeithas orllewinol fodern yn galaru am gyfnod penodedig bellach, ond mae iddo ei fanteision a’i anfanteision. Un o’r prif fanteision yw ei fod yn gofyn i’r gymuned gyfan gydnabod bod galar rhywun ar ôl i rywun farw yn hollysol ac y dylai gael ei gydnabod. Yr anfantais yw bod pob galar yn wahanol - ni allai amser penodol i alaru fyth fod yn addas ar gyfer yr amrywiol fathau o alar sy’n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau.
Portread 1: Defodau Galar
Un o straeon llai adnabyddus yr Hen Destament yw stori Rispa (2 Samuel 21.1-22). Gordderch y Brenin Saul oedd Rispa ac ar ôl ei farwolaeth daeth rhai o elynion Saul i geisio dial ar ddisgynyddion Saul, ond nid oedd y Brenin Dafydd yn caniatáu hyn. Roedd dioddefwyr y cylch dial hwn yn cynnwys dau fab Rispa a phump o feibion un o ferched Saul, Merab. Fe gawson nhw eu trywanu ar ben mynydd ar ddiwrnod cyntaf y cynhaeaf. Fel gordderch arweinydd oedd dan warth, nid oedd gan Rispa bŵer o gwbl, doedd ganddi ddim unrhyw ffordd o gael cymorth. Felly, yn lle hynny, am chwe mis (o ddechrau’r cynhaeaf hyd nes daeth y glaw) bu’n eistedd gyda chyrff ei meibion a’i llyswyrion, yn eu gwarchod rhag fulturiaid a llewod y mynydd.
Dyma’r oll a wyddom am weithredoedd Rispa, ond mae yna rywbeth trawiadol am y stori. Bu Rispa’n galaru am lawer mwy o amser nag oedd yn cael ei neilltuo fel arfer, ac mae’n anodd gwybod pam ei bod hi wedi gwneud beth wnaeth hi. Yr esboniad mwyaf amlwg yw nad oedd hi’n gwybod beth arall i’w wneud yn ei galar a’i dryswch yn dilyn llofruddiaeth ei meibion - ac felly fe wnaeth yr hyn a allai. Yr hyn sy’n anhygoel am y stori yw bod gweithredoedd Rispa wedi dod i sylw’r Brenin Dafydd a’i fod wedi edifarhau am ei ddiffyg tosturi tuag at deulu Saul, a threfnodd gladdedigaeth briodol ac anrhydeddus nid yn unig i blant a llyswyrion Rispa, ond i Saul a Jonathan hefyd. Efallai ein bod ni o’r farn mai cam bach oedd hwn i wneud yn iawn am y boen a achoswyd - ac mae hynny’n wir - ond mewn gwirionedd, roedd yn dro pedol eithriadol gan Frenin a oedd prin byth yn cael ei herio na’i feirniadu. Dim ond gwneud yr hyn a allai wnaeth Rispa - ond fe wnaeth wahaniaeth mawr.
Myfyrio: mae defodau sy’n gysylltiedig â marwolaeth a galar yn newid mewn diwylliant cyfoes: sut gall yr eglwys roi lle i alaru a chofio mewn cymuned leol?
Plant
Mae’r galar a brofir gan bobl pan fo plentyn yn marw yn gallu bod yn un o’r mathau gwaethaf oll o alar. Efallai ei fod yn cael ei grynhoi orau gan y geiriau yn Jeremeia 31:15 a gafodd eu hategu yn Efengyl Mathew (2.18): ‘Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt mwy.’ Mae yna rywbeth am yr adnod sy’n cwmpasu’r trallod dwfn a didrugaredd a brofir gan bobl ar farwolaeth plentyn.
Mae yna gefndir hir a diddorol i’r adnod. Mae’n dechrau yn Genesis. Roedd Jacob, mab Isaac ac ŵyr Abraham, am briodi Rachel ond cafodd ei dwyllo gan Laban, ei thad, i briodi Leah, chwaer hŷn Rachel. Yna, bu Jacob yn gweithio am saith mlynedd arall er mwyn gallu priodi Rachel. Mae yna elfen chwerw i’r stori - roedd Rachel yn cael trafferth i feichiogi tra bod Leah yn ei chael hi’n hawdd i feichiogi a chael plant. Dywedir bod Leah wedi cael pum mab a merch cyn i Rachel feichiogi o gwbl (Genesis 30.1-21). Yna cafodd Rachel fab, Joseff, ffefryn Jacob (30.22-24). Yn ddiweddarach, beichiogodd Rachel am yr eildro ond bu farw ar ôl rhoi genedigaeth i Benjamin a chafodd ei chladdu ar y ffordd i Fethlehem (35.16- 22). Roedd ei marwolaeth, felly, wedi’i fframio mewn dagrau am ei phlant yr oedd wedi cael trafferth i’w cenhedlu ac a oedd wedi marw wrth eu geni yn y pen draw. Cyfeiriodd Jeremeia at yr hanes hwnnw eto, wrth iddo alw pobl Jiwdea gan mlynedd yn ddiweddarach, yn blant Rachel. Fe fydden nhw wedi’u halltudio gan y Babiloniaid heibio i fedd Rachel ar y ffordd i Fethlehem, a dyna’r rheswm dros yr wylo am ei phlant na fyddent bellach yn ddioddef trychineb cenedlaethol.
Cyfeiriodd Mathew eto at y thema hon, wrth sôn am blant Bethlehem yn cael eu lladd gan y Brenin Herod ger bedd Rachel. Cafodd yr adnod am Rachel, felly, ei hadfywio o’r newydd yn y straeon am eni’r Iesu ac yn y cyfeiriadau at y gyflafan a fu pan laddwyd y plant ym Methlehem. Mae’r ffaith fod yr adnod hon mor berthnasol fel y gellir ei defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau yn adrodd cyfrolau, gyda phob un yn dal elfen wahanol o drallod colled.
Un o’r elfennau sy’n deillio o’r stori hon yw galar y rhai sy’n methu â chael plant. Gellir teimlo bod cymdeithas fodern yn rhoi gwerth anghymesur ar rieni a’u plant ar draul y rhai nad oes ganddyn nhw blant. Nid yw hyn i’w weld yn y Beibl. Mae straeon am bryder dwfn y rhai sy’n methu â chael plant yn cael lle ochr yn ochr â straeon y rhai sydd â phlant. Wrth gwrs, nid yw’r naratif yn berffaith o safbwynt modern. Teuluoedd yw’r ddelfryd o hyd ac ychydig o sylw sy’n cael ei roi i famau sengl neu’r rhai sy’n dewis peidio â chael plant. Yn wir, roedd menywod na allent gael plant yn cael eu disgrifio fel rhai ‘amhlantadwy’ sy’n creu problem ar sawl lefel.
Serch hynny, mae’n bwysig sylwi bod poen dwfn methu cael plant yn cael ei gydnabod yn aml yn y Beibl. Mae yna fenywod, fel Sara, yr oedd ei phoen mor fawr nes iddi chwerthin mewn anghrediniaeth wrth i’r ymwelwyr ger derw Mamre addo plentyn iddi (Genesis 18.12). Roedd Rachel yn ysu cymaint am blentyn nes ei bod hi’n meddwl y byddai’n marw (Genesis 30.1), a Hanna a oedd yn wylo’n chwerw ac yn methu bwyta oherwydd ei galar mawr, gydag Eli yn y deml yn camgymryd ei gweddïau gofidus am blentyn am rywun meddw (1 Samuel 1.13). Mae’r straeon hyn yn parhau yn y Testament Newydd gydag Elisabeth, fel Sara, a oedd yn cael ei hystyried yn rhy hen i gael plentyn (Luc 1.7).
Yr hyn ddaw i’r amlwg yn y straeon hyn yw nad oedd atebion hawdd i’w cael bob amser - wrth gwrs nad oedd, does byth - ond eu bod wedi digwydd mewn cymdeithas a oedd yn cydnabod y galar ac yn ei gofnodi. Mae yna rywbeth pwysig i’w ddysgu o hyn. Yn rhy aml o lawer, mae galar yn cael ei guddio, fel rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa fod y math hwn o alar o’n hamgylch drwy’r amser a bod angen i ni ei gydnabod. Yn wir, os gallwn ni ddod o hyd i eiriau sy’n uniaethu â’r emosiynau a brofwyd, fe allan nhw fod yn eiriau i’w defnyddio eto ac eto i fynegi rhywbeth sy’n teimlo y tu hwnt i fynegiant.
Portread 2: Hagar ac Ismael
Morwyn Abraham a Sara oedd Hagar. Pan oedd Sara yn methu â beichiogi rhoddodd Hagar i Abraham er mwyn iddi feichiogi plentyn ar eu rhan. Ar ôl i Hagar feichiogi, daeth Sara’n genfigennus iawn ohoni a’i thrin mor wael nes iddi redeg i ffwrdd. Pan oedd yn y diffeithwch daeth angel ati a’i hanfon yn ôl, gan roi sicrwydd iddi y byddai’n cael mab a fyddai’n cael llawer o blant (Genesis 16.1-16). Ar ôl i Isaac gael ei eni ni allai Sara oddef ei chenfigen at Hagar mwyach ac anfonodd hi ac Ismael i’r diffeithwch, lle'r oedd Hagar yn meddwl y byddai Ismael yn marw (‘Ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, “Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw.” Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo.’ Genesis 21:16).
Y thema sy’n codi yn y straeon hyn yw nad oedd Hagar wedi’i gadael nac ar ei phen ei hun, er ei bod hi’n teimlo felly. Y naill dro a’r llall yn y diffeithwch, fe glywodd Duw hi ac ymateb i’w thristwch. Yn Genesis 16.13, yn wir, datganodd Hagar fod Duw yn ‘El-roi’, sy’n golygu Duw sy’n gweld. Mae’n anodd iawn ei gyfleu’n union yn Gymraeg ond mae’n golygu rhywbeth fel – ‘mae’r Duw sy’n fy ngweld i wedi ymddangos fel y gallaf i ei weld ef’. Pan fyddwn mewn profedigaeth ac yn galaru gallwn deimlo ein bod ni wedi ein hamddifadu’n llwyr. Mae stori Hagar yn ein hatgoffa nad yw hyn wir waeth sut rydym yn teimlo. ‘El-roi’ yw Duw – y Duw gweld – sy’n ein gweld ni yn ein trallod ac yn clywed ein cri bob amser.
Myfyrdod: sut rydych chi neu’ch eglwys leol yn tystio i’r ‘Duw gweld’, sydd bob amser yn clywed ein cri, yn enwedig cri’r galar cudd, dieiriau hwnnw?
Galar am Drychineb – personol a chenedlaethol
Elfen bwysig arall o alar yn y Beibl yw galar a fynegir ar adeg o drychineb cenedlaethol. Mae’n debyg mai’r trychineb pwysicaf ohonynt i gyd yn y Beibl oedd y gaethglud. Dyma’r adeg pan orchfygwyd pobl Jiwdea gan fyddin Babilon, pan gafodd eu dinas a’u teml eu difa ac y cymerwyd eu harweinwyr ymaith a’u halltudio. Ar adegau fel hyn, yn yr Hen Destament gwelwn gymuned yn dod at ei gilydd i gydalaru. Mae Llyfr Galarnad yn cynnwys galarnadau helaeth am yr hyn a ddigwyddodd i ddinas Jerwsalem, ond mae yna amrywiaeth o alarnadau cymunedol sy’n rhedeg drwy’r Salmau ac yn rhoi mynegiant i’r teimlad o frad a cholled a brofodd y bobl.
Mae Salm 79 yn enghraifft dda o Salm o’r fath. Mae’n dechrau gyda disgrifiad o’r hyn aeth o’i le (yn yr achos hwn, halogi’r deml a llofruddio llawer o drigolion y ddinas 79.1- 4); yna mae’n pledio gyda Duw am gymorth (‘Am ba hyd, Arglwydd? A fyddi’n ddig am byth?’ 79.5) ac yn gorffen gyda datganiad o hyder y byddai Duw yn wir yn dod i achub ei bobl. Mae yna rywbeth pwysig yn yr ymgynnull hwn i gydalaru, i gyffesu beth sy’n anghywir ac i fynegi hyder yn y Duw sy’n ein caru. Efallai fod yna rôl i’r eglwys fyfyrio ar bwysigrwydd galarnadu’n gymunedol yn ogystal ag yn unigol yma.
Nid y Salmau galarnad cymunedol yw’r unig Salmau galarnad - mae yna lawer o Salmau galarnad unigol hefyd. Mae Salmau galarnad unigol yn dilyn patrwm tebyg i’r rhai cymunedol.
Y Salmau - dim ond un, Salm 88, sydd heb neges o hyder nac o obaith ac mae’n bruddglwyfus o’r dechrau i’r diwedd. Mae hwyliau pob un arall yn codi tua’r diwedd. Boed yn gymunedol neu’n unigol, mae’r Salmau hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd troi at Dduw yn ein galar a’n dicter. Mae’n hawdd dychmygu nad oes lle i emosiynau cignoeth mewn gweddi nac addoliad, ac y dylem aros nes ein bod ni’n teimlo’n well fel y gallwn gynnig ein hemosiynau rhesymol a chymedrol i Dduw.
Roedd y Salmwyr yn anghytuno â’r farn hon yn amlwg. Roedden nhw’n troi at Dduw, weithiau mewn cythrudd – gan ddymuno, er enghraifft, y gallen nhw ddryllio plant y Babiloniaid yn erbyn y graig, Salm 137.9 – weithiau mewn dagrau. Roedden nhw’n dod â’u hemosiynau i gyd gerbron Duw. Mae’r Salmau felly’n awgrymu nad yw Duw yn malio beth rydych chi’n ei ddweud wrtho cyn belled â’ch bod chi’n dal i siarad ag ef. Eto, mae yna lawer i’w ddysgu o hyn – mae angen i ni fyfyrio ar sut i ddarparu llefydd cefnogol lle gall pobl fynegi eu gwir deimladau i Dduw, hyd yn oed os yw’r teimladau hynny’n atseinio’r hyn a geir yn Salm 137.9.
Portread 3: Job
Un o’r straeon mwyaf cynhwysfawr am wae, dioddefaint a galar yn yr Hen Destament yw llyfr Job. Mae’r llyfr yn cynnig myfyrdod eang ar broblem dioddefaint. Yr adeg honno, fel heddiw, roedd pobl yn dueddol o awgrymu bod pethau da yn digwydd i bobl dda a phethau drwg i bobl ddrwg. Ar y pryd, gwobrwyo’r cyfiawn y bydden nhw’n ei alw fe; karma fyddai pobl heddiw yn ei ddweud. Mae’r syniad yn un sy’n boblogaidd drwy’r byd i gyd er ei fod e’n amlwg yn anghywir. Rydym yn hoffi dychmygu ein bod ni’n gallu osgoi pethau drwg rhag digwydd drwy fyw bywyd da. Mae llyfr Job yn troi’r gred hon ar ei phen. Job oedd y mwyaf cyfiawn o’r holl bobl gyfiawn a phenderfynodd Satan y byddai’n hwyl ei brofi a gweld beth fyddai’n digwydd.
Dydy’r stori ddim yn ymwneud â’r profi mewn gwirionedd, mae’n ymwneud â sut gwnaeth gwahanol bobl ymateb i ddioddefaint Job. Cafodd tri ffrind Job, Eliffas, Bildad a Soffar, sgyrsiau hir ag ef gan gynnig esboniadau am ei ddioddefaint – roedd y rhan fwyaf yn awgrymu mai Job oedd ar fai. Mewn rhai ffyrdd mae llyfr Job yn fyfyrdod helaeth ar sut i beidio â siarad â phobl sy’n dioddef. Doedd ffrindiau Job yn fawr o gymorth o gwbl, ac un o’r rhesymau am hyn yw eu bod wedi ceisio egluro beth oedd yn digwydd. Mae gan y llyfr lawer o themâu ond efallai mai’r thema bwysicaf yw, os ydym am fod yn wir ffrind i’r rhai sy’n dioddef, y dylem adael ein hesboniadau wrth y drws a gwrando ar beth sy’n digwydd mewn gwirionedd i’r bobl rydym yn ceisio gofalu amdanyn nhw.
Myfyrdod: mae marwolaeth yn effeithio ar gymunedau a gwledydd yn ogystal ag unigolion, ac yn llywio ein personoliaeth. Sut mae’r eglwys, neu sut gallai’r eglwys leol ymateb i drasiedi ar lefel genedlaethol, leol a phersonol?
Wylo gyda’r rhai sy’n wylo
Er bod llawer o’r hyn y gallwn ei gymryd o’r Beibl am alar yn dod o’r Hen Destament mae’n bwysig yn y Testament Newydd hefyd. Mae gwahanol destunau yn y Testament Newydd yn datgan yn glir bod bod yn gorff Crist a byw fel Cristnogion yn golygu y dylem ni ofalu am y rhai sy’n galaru. Mae’r gofal hwn yn ymarferol ac emosiynol. Mae Actau 6.1-4 yn sôn am beth aeth o’i le pan oedd gweddwon Groeg eu hiaith yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso ar draul y gweddwon Hebraeg eu hiaith. Mae’n wir dweud ei fod yn adrodd am achlysur pan aeth popeth o’i le, ond mae’n datgelu arfer pwysig. Yn yr henfyd, mewn byd heb unrhyw fath o system les, lle'r oedd hi’n anodd i fenywod ddod o hyd i waith, gallai gweddwon yn rhwydd ddiweddu’n amddifad ar y stryd. Mae’n glir bod cymunedau Cristnogol cynnar yn gwneud eu gorau i ofalu am weddwon yn y sefyllfa hon, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion ymarferol yn cael eu diwallu.
Nid gofal ymarferol oedd ar gael yn unig. Dyma orchymyn Rhufeiniaid 12.15 i Gristnogion Rhufain - ‘wylwch gyda’r rhai sy’n wylo’. Yn union fel roedd arferion galaru Iddewiaeth a’r gofyniad i ‘eistedd shiva’ gyda’r rhai oedd yn galaru, mae Paul yn datgan yn glir y dylai Cristnogion wneud yr un fath. Fel y dywed yn 1 Corinthiaid 12.26: ‘Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef’. Rhan o fod yng nghorff Crist yw ein bod ni’n cydalaru, fel y byddwn yn cydlawenhau pan fo’r achlysur yn galw am hynny.
Myfyrdod: a oes yna heriau ariannol a chymdeithasol o hyd i’r rhai sy’n galaru? Sut gallai’r eglwys gynnig cymorth ymarferol, a bod yn rhan o’r sgwrs i sicrhau newid?
Dal gafael i obaith
Mae yna gyfoeth o ddeunydd ar agweddau ar alar a dioddefaint yn y Beibl, o benodau cynharaf Genesis i benodau olaf y Datguddiad. Yn anffodus, mae galar a galaru yn gymaint rhan o fywyd ag yw cariad a llawenydd. Mae yna lawer i’w ddysgu o’r Beibl am ddefodau galar a sut gallwn droi at Dduw yng nghanol ein gwewyr a’n gofid, ond fe fydd gofid a galar tra byddwn byw. Fel Cristnogion, felly, yng nghanol dioddefaint y byd hwn, rydym yn dal gafael yn addewid Duw: ‘y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. 4 Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni fydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.’ (Datguddiad 21:3-4)
Paula Gooder