Aros am ddiwrnod yr angladd
Ar ôl cyfarfod a threfnu’r angladd efallai na fydd yr angladd ei hun yn digwydd am sbel – rhwng rhai dyddiau a dros bythefnos hyd yn oed. Gall fod yn gyfnod anodd iawn i’r teulu a phawb a fydd yn mynychu. Darllenwch ymlaen i gael syniadau syml i’w cefnogi yn ystod y cyfnod aros hwn.
Gall aros am angladd deimlo’n rhyfedd, hyd yn oed yn swreal i’r rhai sy’n galaru. Mae yna lawer o bethau ymarferol i feddwl amdanyn nhw o hyd, ac efallai y byddan nhw’n profi pob math o wahanol emosiynau ac yn ymateb yn wahanol. .
Mae gadael rhywbeth pendant gyda’r teulu sy’n eu hatgoffa am gymorth a gofal parhaus yr eglwys yn gallu bod yn ddefnyddiol. Gallai hyn fod yn gerdyn arbennig, (wedi’i bostio os nad oedd hi’n bosibl ymweld), sy’n cynnwys gweddi y gallan nhw ei defnyddio. Mae hefyd yn dweud wrth y teulu bod yr eglwys yn gweddïo drostyn nhw.
Bydd llofnodi’r cerdyn a chwblhau’r manylion yn rhoi’r cyfan sydd ei angen er mwyn i’r teulu allu cysylltu â chi os oes angen.
Byddwch yno i roi arweiniad i’r teulu os ydyn nhw ei angen, yn enwedig os oes rhywun yn mynd i roi’r deyrnged neu ddarllen. Os oes gennych chi amser i gynnig cymorth ychwanegol gallech gynnig lle i ymarfer, gyda chi neu gydweithiwr profiadol arall, neu awgrymiadau ymarferol ar ysgrifennu teyrnged dda, pe bai hynny’n help.
Yn aml, bydd teuluoedd yn ddiolchgar iawn i gael gwybod bod yr eglwys yn cofio amdanyn nhw.