Cerdded gyda’r arch
Pan mae angladd yn cael ei gynnal mewn eglwys rwy’n gwahodd yr holl gynulleidfa i ddilyn yr arch allan ar ddiwedd y gwasanaeth a’i draddodi’n ymwybodol i Dduw wrth i’r ymadawedig fynd ar ei daith olaf. Rydym yn cerdded mor bell â giât yr eglwys yna’n sefyll a gwylio wrth i’r hers adael. Rwyf wedi fy synnu sut mae hyn yn ennyn y fath ymateb cadarnhaol a chryf mewn pobl. Mae’n tanlinellu’r syniad o fywyd fel pererindod ac angladd fel cam olaf y daith honno, ac yn ein hatgoffa nad ydym yn mynd ar ein pen ein hunain. Hyd yn oed mewn marwolaeth, gallwn fynd gydag anwylyd am ran o’i daith olaf.
Anhysbys