Ffyrdd y gall yr Eglwys helpu teuluoedd galar i gofio
Mae llawer o eglwysi’n dweud bod mwy o wasanaethau i gofio anwyliaid nag unrhyw fath arall o wasanaeth. Boed yn wasanaeth coffa personol neu gydag eraill, mae gan deuluoedd angen clir ar ôl yr angladd – angen y gall yr eglwys helpu i’w ddiwallu. Defnyddiwch yr adran hon i ystyried ffyrdd i wneud yn fawr o’r gwasanaethau hyn.
Gall cofio rhywun yng nghwmni ffrindiau a theulu, neu gydag eraill mewn gwasanaeth at y diben hwnnw, gynnig lle i bobl alaru am bwy bynnag sydd wedi marw. Dyma rai syniadau:
Gwasanaethau preifat
- Union flwyddyn ar ôl marwolaeth rhywun annwyl, mae poen y golled yn ail-godi i’r wyneb neu’n dwysáu yn aml, ond mae yna adegau eraill hefyd pan mae pobl yn teimlo’r angen i nodi dyddiad pwysig, fel pen-blwydd, a chofio’r person sydd wedi marw. Beth am ystyried trefnu gwasanaeth coffa i deulu, gan gynllunio mor gynnar ag y gallwch chi, yn enwedig os nad oedd hi’n bosibl i i lawer fynychu’r angladd.
Adegau arbennig
- Cofiwch sôn am wasanaeth Gŵyl yr Holl Saint neu eich gwasanaeth cyfatebol i bawb sydd wedi cael angladd yn y flwyddyn ddiwethaf neu hyd yn oed cyn hynny. Gallwch ei gyhoeddi ar eich gwefan, a/neu gysylltu â theuluoedd galar yn uniongyrchol.
- Efallai na fydd y teitl ‘Gŵyl yr Holl Saint’ yn golygu rhyw lawer i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r eglwys. Er mai dyna yw e, gallai defnyddio enw arall fel ‘Gwasanaeth i’r rhai sy’n Galaru’ neu ‘Gwasanaeth i Gofio Anwyliaid’ eu helpu i weld mai gwasanaeth penodol ar eu cyfer nhw yw e.
- Gall dyddiadau arbennig fel y Nadolig, Sul y Mamau a Sul y Tadau fod yn adegau anodd i bobl, waeth a ydyn nhw wedi colli rhywun yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl. Meddyliwch am y bobl hyn wrth i chi gynllunio’ch pregethau cyn y gwasanaethau hyn. Dylech gynnwys gweddïau priodol ar gyfer y rhai sy’n gweld y tymor dathlu yn un anodd.
- Gallech ystyried cynnal math gwahanol o wasanaeth ar adeg wahanol i’r prif ddathliad, ar gyfer teuluoedd sy’n galaru’n benodol.