Pan nad oes plant yn dod i’r angladd
Dyw rhai teuluoedd ddim yn teimlo y gallan nhw ddod â phlant ifanc i angladdau teuluol. Pan mae hyn yn digwydd, rwy’n gofyn a fyddai aelod o’r teulu neu ffrind yn gallu tynnu ychydig o luniau – nid o’r seremoni, ond o’r arch yn cyrraedd yr eglwys neu’r amlosgfa, o’r blodau ac o rai o’r bobl efallai; y math yna o beth. Yna, gellir rhoi’r lluniau hyn yn albwm y teulu ac wrth i’r plant dyfu gall y teulu siarad am yr angladd gyda nhw.
David Robertson