Dal i wahodd pobl yn ôl!
Dim ond dechrau perthynas rhwng teulu a’r eglwys yw gwasanaeth eglwys arbennig ar achlysur un o ddigwyddiadau mawr bywyd. Gallwch feithrin y cysylltiad cychwynnol a wnaed dro ar ôl tro ac mewn ffyrdd syml iawn nad yw’n gofyn fawr o ymdrech.
Mae ymchwil annibynnol yn dangos bod teuluoedd yn disgwyl i’w heglwys gadw mewn cysylltiad â nhw ar ôl eu gwasanaeth arbennig, ac eto ychydig o eglwysi sy’n gwneud hynny. Y newyddion da yw bod y mwyafrif llethol o deuluoedd yn hapus i’r eglwys gadw mewn cysylltiad ac y bydden nhw’n croesawu’r cysylltiad hwnnw.
Mae yna straeon di-ri o bob cwr o’r Eglwys sy’n dweud wrthym fod gwaith dilynol - gwahodd teuluoedd yn ôl i’r eglwys - yn weithgarwch cenhadu effeithiol iawn. Gwyddom y gall gael effaith sylweddol ar dwf niferoedd yn yr eglwys ac ar deithiau ffydd y rhai sy’n gysylltiedig.
Bydd gan yr eglwys lle y cynhaliwyd y gwasanaeth le arbennig yn atgofion yr holl bobl a oedd yn bresennol, a bydd ganddo le yn eu calonnau am byth. Does dim rhaid i’r anogaeth barhaus i ddychwelyd i’r eglwys honno, i brofi cariad a lletygarwch teulu’r eglwys, fod yn feichus.
Mae’r wefan gymorth hon yn llawn dop o syniadau. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth, ond beth am ddewis a gweithredu’r hyn y credwch sy’n bosibl ei gyflawni ac sy’n gynaliadwy yn eich cyd-destun gweinidogol chi.