Ydy hi’n bwysig cadw mewn cysylltiad ar ôl y digwyddiad?
Wrth fwrw golwg sydyn drwy fy e-byst rwy’n gallu gweld yr holl sefydliadau sy’n cadw mewn cysylltiad â fi – ac yn anfon pethau ataf drwy’r post hefyd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tate Britain, Eglwys Gadeiriol Caerloyw, Trailfinders, a’r holl bethau defnyddiol fel yswiriant a chwmnïau cyfleustodau. Mae’r cyfan yn anfon gohebiaeth ata’i ar ôl i fi gael cysylltiad â nhw – rhai ohonyn nhw am flynyddoedd. Ac, yn y dyddiau ôl-GDPR hyn, mae ganddyn nhw fuddiant busnes cyfreithlon neu maen nhw’n gofyn i fi a oes gen i ddiddordeb mewn clywed ganddyn nhw. Mae gen i ddiddordeb fel arfer.
Mae’r tîm Digwyddiadau Bywyd newydd gwblhau darn newydd o waith ymchwil am briodasau. Unwaith eto, gofynnwyd a oedd cyplau am glywed gan yr eglwys ar ôl y diwrnod mawr. Yn unol â phob darn arall o waith ymchwil a wnaed gennym, roedd yr ateb yn gadarnhaol iawn, roedden nhw am glywed yn sicr.
Yna rydym yn gofyn a ydyn nhw’n clywed gennym ni eto mewn gwirionedd. Yn anffodus, mae’r canlyniadau’n dal i fod yn siomedig.
Mae’r patrwm hwn yr un fath ar gyfer y rhai rydym yn cyfarfod â nhw mewn gwasanaethau bedydd ac angladdau. Mae naw o bob 10 o bobl yn dweud yr hoffen nhw glywed gennym ni eto. Rydym ni wedi rhannu un o ddigwyddiadau mwyaf eu bywyd gyda nhw. Ac yn dweud y byddwn ni yno bob amser iddyn nhw… felly pam ein bod ni mor swil i gadw cysylltiad?
Rwy’n dechrau meddwl, tybed a oes llawer ohonom ni, yn enwedig clerigion, yn clywed rhywbeth gwahanol pan mae canfyddiadau’r ymchwil yn dweud wrthym fod ‘cadw mewn cysylltiad yn bwysig iawn’. A ydym ni’n clywed bod ‘ymweld bugeiliol yn bwysig iawn’. Ar ba bwynt rydym ni’n cael ein gorlethu gan faint y dasg… Sut gallwn ni ymweld â’r holl deuluoedd hyn yn yr amser sydd gennym ni - ac mae llawer ohonyn nhw yn byw y tu allan i’r ardal? Yna rydym yn teimlo’n euog… gan ein bod ni’n meddwl y dylen ni fod wedi ymweld, ond nad oedden ni’n gallu gwneud hynny.
Y sefyllfa go iawn: dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim am i ficer alw: dim ond clywed gennym ni maen nhw eisiau. Maen nhw am wybod nad ydym ni wedi anghofio amdanyn nhw - a chael y wybodaeth gywir i allu gwneud penderfyniad am y cam nesaf iddyn nhw. Gall y cam nesaf hwnnw fod mewn eglwys dawel yn y wlad neu mewn eglwys gadeiriol fawr, neu ddod i ffair neu wasanaeth Sul y Cofio - ac wrth gwrs, gall olygu gwasanaeth carolau. Ond sut gallan nhw ddod os nad ydym ni wedi cadw mewn cysylltiad?
Mae cadw mewn cysylltiad yn golygu cysylltu nid ymweld – er gydag amser, fe all gynnwys ymweld er mwyn meithrin perthynas. Pan fyddwch chi’n ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, maen nhw’n cadw mewn cysylltiad trwy anfon rhywbeth yn y post, a rhywbeth ar-lein, yn cynnwys negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Gorau oll, maen nhw’n anfon rhywbeth lleol – gwybodaeth arbennig am beth sydd ar y gweill yn eich ardal chi, a llond gwlad o awgrymiadau ar sut i gael rhagor o wybodaeth, fel y gallwch chi benderfynu beth i’w wneud nesaf. Ac maen nhw’n anfon y wybodaeth a gwahoddiad yn rheolaidd, fel mater o drefn, fel mod i’n gwybod mod i’n perthyn.
Mae cadw mewn cysylltiad â theuluoedd a chyplau ar ôl priodas, angladd neu fedydd yn dechrau yn yr un man. Gall unrhyw un wneud hyn, nid ficer yn unig. Mae yna bedwar peth hawdd i’w wneud:
- Creu tudalen Facebook, a rhoi gwybod ei bod hi’n bodoli. Ei defnyddio i rannu gwybodaeth.
- Cychwyn e-gylchlythyr rheolaidd.
- Anfon gwahoddiadau i’ch digwyddiadau arbennig, fel gwasanaethau Nadolig neu noson gymdeithasol hwyliog. Mae dewis gwych ar gael yn The Church Print Hub.
- Anfon cardiau i gofio eu hamseroedd arbennig nhw fel pen-blwydd priodas neu ben-blwydd. Mae’r pethau bach a syml hyn yn dangos bod gennym ni ddiddordeb ynddyn nhw ac yn gymorth i gryfhau perthynas.
Mae canfyddiadau’r ymchwil yn glir: os ydym ni’n cadw mewn cysylltiad, mae yna siawns y bydd pobl yn cymryd y cam nesaf ar daith cysylltiad â’r eglwys, taith o ddarganfod ffydd yn Nuw drwy Iesu Grist a lle gyda phobl Dduw. Os nad ydym ni’n cadw mewn cysylltiad, efallai y bydd yr holl dda rydym wedi’i greu yn cael ei golli. Cysylltiad yw’r bont o genhadaeth i ddisgyblaeth, y bont o’r profiad cyntaf hwnnw i gyfarfyddiadau sy’n newid bywyd. Pwy fyddai wedi meddwl y gallai e-gylchlythyr fod yn rhan o hynny?
Y Parchedig Ddr Sandra Millar