Gweddi Croes Balmwydd
Ar Sul y Palmwydd (Sul y Blodau) bydd pawb yn cael croes balmwydd i fynd adref gyda nhw. Dyma syniad gweddi syml i’w ddefnyddio yn y gwasanaeth – neu i deuluoedd ei wneud gartref wrth ddal y groes balmwydd.
Mae pob pwynt o’r groes yn cysylltu â thema.
- Daliwch y groes yn eich llaw dde yna rhowch eich bawd chwith ar y ‘darn croes’. Gweddïwch dros y byd, gan ddefnyddio’r geiriau hyn neu eiriau tebyg: Dduw Cariadlon, diolch i ti fod dy heddwch yn cyrraedd i bob sefyllfa ar draws ein byd. Bydd yn agos at y llefydd hynny sydd angen heddwch heddiw. Arglwydd yn dy drugaredd – Clyw ein gweddi.
- Rhowch eich bawd chwith ar ochr dde’r ‘darn croes’ a gweddïwch dros bobl mewn angen, gan ddefnyddio’r geiriau hyn neu eiriau tebyg: Dduw Cariadlon, diolch i ti fod dy obaith yn cyrraedd pob sefyllfa. Bydd yn agos at y rhai sy’n sâl neu’n drist heddiw. Arglwydd yn dy drugaredd - Clyw ein gweddi
- Rhowch eich bawd chwith ar waelod y ‘darn croes’ a gweddïwch dros y gymuned ble rydych chi’n byw, gan ddefnyddio’r geiriau hyn neu eiriau tebyg: Dduw Cariadlon, diolch i ti fod dy lawenydd yn cyrraedd i’n cartrefi. Helpa ni i wybod dy fod ti gyda ni bob dydd. Arglwydd yn dy drugaredd - Clyw ein gweddi
- Rhowch eich bawd ar ben y ‘darn croes’ a gweddïwch dros y rhai sy’n arwain yn yr eglwys ac yn eu haddysgu am Iesu, gan ddefnyddio’r geiriau hyn neu eiriau tebyg: Dduw Cariadlon, diolch i ti fod dy gariad yn cael ei rannu drwy dy eglwys. Rho ddoethineb i’r rhai sy’n ein helpu ni i adnabod Newyddion Da Iesu. Arglwydd yn dy drugaredd - Clyw ein gweddi
- Rhowch eich bawd yng nghanol y ‘darn croes’ a gweddïwch dros eich hun, gan ddefnyddio’r geiriau hyn neu eiriau tebyg: Dduw Cariadlon, diolch i ti am Iesu a’r cariad a ddangosodd i fi. Helpa fi i’w ddilyn yn fwy a mwy bob dydd. Amen.