Gweddi i gyfrif i lawr at y Nadolig
Mae’r weddi syml iawn hon yn defnyddio agweddau ar stori’r Nadolig i weddïo.
Gwahoddwch bawb i ddal eu llaw allan, gan blygu eu bysedd wrth gyfrif i lawr.
Pump: llaw gyflawn yn cynrychioli’r holl fyd. Diolchwch am gariad Duw i’r holl fyd; gweddïwch am unrhyw wledydd penodol sydd yn y newyddion; gweddïwch y bydd y Newyddion Da o heddwch yn cael ei glywed ymhob man. Arglwydd, yn dy drugaredd. Pawb: Clyw ein gweddi.
Pedwar: yn cynrychioli’r bugeiliaid a phawb sy’n gweithio neu’n byw ar gyrion cymdeithas. Gweddïwch dros y rhai sy’n gweithio ar Ddydd Nadolig, y rhai heb unman i fynd, y rhai sy’n cael casáu a’u dilorni gan eraill; gweddïwch y byddan nhw’n canfod realiti cariad Duw. Arglwydd, yn dy drugaredd. Pawb: Clyw ein gweddi.
Tri: yn cynrychioli’r Tri Gŵr Doeth a phawb sydd â grym a dylanwad. Gweddïwch dros arweinwyr yr eglwysi a’r wlad, y byddan nhw’n parhau i geisio gwirionedd a chyfiawnder i bawb. Arglwydd, yn dy drugaredd. Pawb: Clyw ein gweddi.
Dau: yn cynrychioli Mair a Joseff a rhieni a’r teulu. Diolchwch am deulu a ffrindiau, ymhell ac agos. Gweddïwch am anghenion penodol yn lleol, ac yn enwedig dros deuluoedd agored i niwed, y byddan nhw’n canfod llawenydd ar y dydd hwn. Arglwydd, yn dy drugaredd. Pawb: Clyw ein gweddi.
Un: yn cynrychioli Iesu, yr un a ddaeth i’n plith gan gynnig gobaith ac achubiaeth. Gweddïwch dros yr eglwys sy’n dathlu ym mhedwar ban byd y diwrnod hwn, dros ein heglwys ni, a thros ein bywydau unigol wrth i ni ei addoli a’i wasanaethu bob dydd. Amen.