Bendithio dyweddïad
Yn ddiweddar, fe wnes i gynnal gwasanaeth i ‘fendithio dyweddïad’ yn ein Cartref Nyrsio lleol, lle mae taid merch sydd newydd ddyweddïo yn gaeth i’w wely. Cysylltodd mam y ferch â mi yn pryderu na fyddai’r taid yn gallu gweld y briodas oherwydd ei afiechyd. Felly, aethom ati i drefnu gwasanaeth i ‘fendithio’r dyweddïad’ (gyda blodau, dillad eglwysig i mi, ffrogiau smart, taflenni gwasanaeth wedi’u hargraffu a chanhwyllau, a siampên i ddilyn) wrth ei wely - dim ond y pâr a oedd wedi dyweddïo, ei rhieni hi a fi.
Bendithiais y fodrwy ddyweddïo, ac fe ddefnyddion ni’r darlleniad o’r Beibl a fydd yn cael ei ddarllen yn y briodas. Mae’n debyg bod ficer plwyf blaenorol y taid wedi gwneud rhywbeth tebyg i chwaer y briodferch (yn yr eglwys bryd hynny, am nad oedd yr hen ŵr yn gaeth i’w wely ar y pryd). Cafodd hyn ei werthfawrogi’n fawr gan y teulu, a’r taid yn enwedig! Pob clod i’r teulu am ofyn.
Anhysbys