Ffordd greadigol o ddefnyddio Canhwyllau Priodas
Defnyddiwch gannwyll briodas ar ôl cyhoeddi’r uniad a chyn bendithio’r briodas fel symbol o’r ddau yn dod yn un. Bydd y briodferch a’r priodfab yn goleuo taprau gwahanol o’r canhwyllau o boptu’r allor ac yna’n mynd i’r canol gyda’i gilydd i oleuo’r gannwyll briodas. Yna, fe fyddan nhw’n mynd â hon gyda nhw ar ddiwedd y gwasanaeth fel atgof parhaus am y fendith yn yr eglwys.