Gwnewch bwynt o groesawu’r plant yn eich cyflwyniad cyn i’r briodferch ddod i mewn. Dywedwch wrth y teuluoedd ei bod hi’n iawn i’r plant symud yn ystod y gwasanaeth, rhowch wybod iddyn nhw oes yna le y gallan nhw fynd â’r plant os oes angen, a ble mae’r toiledau
Rhowch ‘fag priodas’ i bob plentyn pan mae’n cyrraedd, sy’n cynnwys cardiau a chreonau felly gall y plant wneud cardiau i roi i’r pâr hapus yn ddiweddarach
Gallech baratoi ‘taflen hwyl’ ar thema priodas yn cynnwys pethau fel chwilair, llun i’w liwio a phethau i sylwi arnyn nhw yn yr eglwys neu’r gwasanaeth
Dylech gynnwys rhywbeth gweledol yn y bregeth neu’r gweddïau
Gallech greu ‘cloc priodas’, trefn gwasanaeth gweledol fel bo gofalwyr yn gallu dangos i blant ble maen nhw yn y gwasanaeth
Neilltuwch le i blant – ryg lle gall plant a gofalwyr eistedd a gweld y seremoni, a darparwch deganau a llyfrau i blant eu defnyddio. Fe wnaeth un eglwys wisgoedd priodferch a phriodfab ar gyfer y tedis roedd y plant yn chwarae gyda nhw yn ystod priodasau.