Helpu cyplau i ddewis cerddoriaeth ac emynau mewn Sesiwn Cerddoriaeth Briodasol
Ers blynyddoedd lawer bellach, rydw i wedi cyflwyno Sesiwn Cerddoriaeth Briodasol mewn dau blwyf gwahanol. Pan rwy’n anfon fy nhaflen briodas a’m cais am flaendal ar ddiwedd Ionawr ar gyfer priodasau sydd i ddod, rwy’n anfon gwahoddiad i’r sesiwn hefyd.
Does dim rhaid i gyplau archebu lle ymlaen llaw, gallan nhw ddod i’r sesiwn a dod ag aelodau o’r teulu gyda nhw – er fy mod i’n gofyn iddyn nhw dicio bocs ar y ffurflen flaendal i nodi ydyn nhw’n bwriadu dod.
Cynhelir y sesiwn ar nos Wener yn gynnar ym mis Mawrth ac mae’n gorgyffwrdd gyda diwedd ymarfer y côr. Croesewir y cyplau ac fe’u gwahoddir i eistedd ym mlaen yr eglwys a rhoddir dau gopi o restr dicio cerddoriaeth briodasol iddyn nhw. Gofynnir iddyn nhw ddewis unrhyw emynau yr hoffen nhw glywed pennill ohonyn nhw, ac mae’r côr yn eu canu, yn cynnwys gwahanol donau ar gyfer rhai o’r emynau poblogaidd.
Ar ôl 15-20 munud o wneud hyn mae’r côr yn mynd adref a chynigir lluniaeth i’r pâr (i lenwi’r amser trosglwyddo) ac yna byddwn yn symud i seddau’r côr. Yna, mae’r organydd yn chwarae llawer o’r gerddoriaeth briodol ar gyfer cerdded i mewn ac allan ac mae’r pâr yn ticio beth maen nhw’n ei hoffi. Yna, mae’r organydd yn ailadrodd unrhyw geisiadau arbennig ac yn dweud pa ddarnau sy’n gweithio orau mewn eglwysi penodol ac ati. Mae’r cyplau’n mynd ag un copi o’r rhestr dicio adref ac yn rhoi’r llai i fi.
Mae’r cyplau’n mwynhau cyfarfod ei gilydd a’r organydd. Mae llawer ohonyn nhw’n dewis cael y côr i ganu yn eu priodas ac wrth gwrs mae hynny’n arbed nifer o gyfarfodydd brys gyda’r organydd ar ôl y gwasanaeth ac yn ei alluogi i egluro manteision yr organ o gymharu â cherddoriaeth wedi’i recordio. Mae llawer yn dod i’r sesiynau bob blwyddyn a’r tro nesaf rwy’n gweld y cyplau maen nhw’n dweud eu bod wedi mwynhau’r profiad ac yna rydym yn gwneud y dewisiadau terfynol..
Mae’n sesiwn gwerth chweil ac yn hawdd i’w threfnu.
Rosamund Seal-Holbeach