Syniadau am sut i gynnwys llysblant mewn priodasau
Pan ddyweddïodd ffrind da gofynnodd mab pump oed ei dyweddi i’w dad, “Fyddi di’n dal i fod yn dad i fi pan fyddi di’n priodi? Ble fyddwch chi’n byw? Fydda i’n byw yno hefyd?”
Roedd hyn yn gyfle da i’w dad a’i ddarpar lysfam roi sicrwydd iddo ac ystyried ei ofnau wrth iddyn nhw ddechrau cynllunio eu dyfodol, ac wrth i sylfeini bywyd bach y bachgen ddechrau symud o’i amgylch. Ni fydd y rhan fwyaf o blant, yn enwedig plant hŷn, mor onest am eu pryderon, er efallai y byddan nhw’n poeni am yr un pethau’n union.
Rydw i wedi gwylio ffrindiau yn priodi pobl sydd wedi cael ysgariad tra bod eu llysblant yn gwylio’n nerfus, yn meddwl sut bydd addewidion anferth eu rhiant yn effeithio arnyn nhw. Er efallai y bydd plant eisiau - ac yn teimlo y dylen nhw - fod yn hapus dros eu rhieni, efallai hefyd y byddan nhw’n teimlo’n ofnus ac ansicr. Ac wrth gynllunio’n brysur am y briodas, fe allai’r rhiant fethu’r arwyddion a pheidio â sylweddoli gwerth dwys datgan yr hyn sy’n amlwg (gobeithio).
Rwy’n ysgrifennu fel person lleyg ac oedolyn sy’n llysblentyn, sydd am weld llysblant yn cael eu helpu i brofi ailbriodas rhiant mewn ffordd mor gadarnhaol â phosibl. Mae’n gyfle gwirioneddol i’r eglwys ddangos bod Duw yn malio am y rhai mwyaf agored i niwed. Gall y pryderon fod yn waeth pan mae’r plentyn yn dal i fod yn ddibynnol ar ei rieni’n ariannol, ond mae profiad yn dangos bod pobl o bob oed yn dueddol o ganfod ailbriodas rhiant yn brofiad sy’n ansefydlogi rhywun. Felly pan rwy’n cyfeirio at ‘blant’, dydw i ddim o reidrwydd yn cymryd eu bod i gyd o dan 18 oed.
Rwy’n credu y gall yr Eglwys gamu i mewn yn hyn o beth, mewn ffordd sy’n cydnabod llwon a wnaed mewn priodasau cyntaf a hefyd gan wneud synnwyr o’r dymuniad i feithrin plant a helpu oedolion i ddod o hyd i ras mewn perthynas newydd. Gall y berthynas honno fod yn ailbriodas dyn neu wraig weddw, neu ailbriodas ar ôl ysgariad, mewn eglwys sy’n caniatáu hynny.
Mae’r Drefn ar gyfer Gweddi ac Ymrwymiad ar ôl Priodas Sifil yn cynnwys cyffes a gollyngdod, gweddïau dros deuluoedd ac am y rhodd o blant. Fodd bynnag, nid yw’r litwrgi priodas yn gwneud hynny – nid yw’n gwahaniaethu’n benodol rhwng priodas gyntaf neu briodas ddilynol, neu a oes plant i’w cael gan un neu ddau o’r partneriaid.
Mae dros 20 mlynedd wedi pasio ers i’r Eglwys gymeradwyo ailbriodi pobl sydd wedi cael ysgariad (o dan amgylchiadau priodol), ac mae rhai llysdeuluoedd yn deillio o brofedigaeth neu o riant yn gadael, ond eto mae’r ddarpariaeth ar gyfer llysblant yn dal yn anghyson. Ond er nad oes gweddïau penodol ar gyfer plant, mae yna le yn yr ymbiliau i greu a datblygu gweddïau sy’n adlewyrchu amgylchiadau penodol unrhyw briodas.
Gellir cymryd camau syml a fydd yn ymlacio plant ar y diwrnod mawr ac yn gallu eu helpu nhw a’r teulu newydd cyfan yn yr hirdymor. Mae’n hanfodol nad yw plant yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o’r trefniadau; efallai eu bod (yn dawel) yn dymuno i’w rhiant beidio ag ailbriodi; efallai fod ganddyn nhw deimladau digon cignoeth am yr amgylchiadau a ddaeth â pherthynas eu rhieni i ben.
Felly mae angen i’w profiad o eglwys fod yn un sy’n eu croesawu nhw a’u teimladau cymysg. Gellir ystyried y llysblant wrth baratoi am y briodas, a gellid gofyn i’r pâr drafod y newidiadau sydd ar fin digwydd gyda nhw. Gallwn ni, fel llysblant, roi’r argraff ein bod ni’n ddigon anodd, ond cefnogaeth amyneddgar, nid troi cefn, fydd yn ein helpu ni i reoli’n well y cant-a-mil o deimladau cymysg sydd gennym ni. Mae Every Step Counts <https://www.careforthefamily.org.uk/shop/parenting-resources/every-step-counts> Care for the Family (Lion, 2007) yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ac astudiaethau achos a allai fod o gymorth yma.
O ran diwrnod y briodas, mae Every Step Counts yn dweud: “The focus of the day should be on lifelong commitment to each other and to the children that one or both partners already have”
Yn ystod y gwasanaeth, gellir rhoi swydd i’r plant a sôn amdanyn nhw yn y gweddïau fel rhoddion i ddiolch amdanyn nhw, mewn ffordd sy’n sensitif i’r rhiant arall os yw’n dal yn fyw. Er enghraifft, “Arglwydd, diolchwn i ti am E a’r llawenydd mae’n ei roi. Gad iddo wybod bod yna groeso a chariad iddo bob amser yng nghartref [X ac Y].” Gellir gwahodd y plentyn ymlaen i gael ei fendithio pan fydd ei riant a’i lysriant yn gwneud hynny.
Gellir annog y rhiant naturiol i fynegi “llwon ychwanegol” i’r plentyn, yn gyhoeddus neu’n breifat, rhywbeth tebyg i: “Fydda i bob amser yn [dad//mam] i ti, bob amser yn dy garu di ac yno i ti; er y bydd pethau’n wahanol, dydw i ddim yn dy adael di.” Gallai’r llysriant addo rhywbeth priodol hefyd, er enghraifft: “Rwy’n addo dangos cariad a chariad i ti; rwy’n parchu dy angen i dreulio amser gyda dy [dad/fam].”
Mae un ffordd o helpu’r rhai sy’n priodi yn ymwneud â’r cwestiwn o gymhathu’r berthynas flaenorol gyda’r presennol. Nid yw “aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma” yn berthnasol bob amser; efallai fod y sawl sydd wedi cael ysgariad neu sy’n weddw yn gallu “symud ymlaen” o’r cymar a gollodd ond nid yw’n gallu, ac ni ddylai, symud ymlaen o’r plant y mae wedi’u cael gyda’r cymar. Fel rheol, mae’n rhaid i rywun sydd wedi cael ysgariad aros mewn cysylltiad â’i gynbartner a dydy perthynas chwerw ddim yn gwneud unrhyw ddaioni i’r plant. Cymaint ag y mae hynny’n dibynnu ar y rhiant sy’n ailbriodi, mae cadw’r berthynas hon yn weithredol a chwrtais, os yn bosibl, yn ffordd y gall anrhydeddu llwon ei briodas wreiddiol a chyfrifoldeb y ddau riant i’w plant.
Er nad yw’r litwrgi ar hyn o bryd yn helpu rhiant sy’n ailbriodi i osod ei blentyn “ar fap” priodas yn y dyfodol, gall yr offeiriad wneud hynny – ar ffurf camau syml yn ystod y briodas ac yn ei ofal bugeiliol cyn y briodas, ac ar ôl y briodas hefyd yn ddelfrydol.
Mae priodas yn ddathliad o gariad, ac mae cyfle euraidd i eglwysi helpu cyplau i roi sicrwydd i’w llysblant eu bod nhw wedi’u cynnwys yn y cariad hwnnw.