Syniadau i annog cyplau i ddod i’r eglwys cyn eu priodas
Ddwy flynedd yn ôl roeddwn i gydag eglwys a oedd wedi datblygu gweinidogaeth priodasau sylweddol iawn. Unwaith y flwyddyn roedden nhw’n gwahodd pob pâr oedd wedi trefnu i briodi yno y flwyddyn honno neu’r flwyddyn nesaf i ddod i wasanaeth arbennig.
Roedd llawer eisoes yn dod i’r eglwys yn rheolaidd i greu cysylltiad trwy bresenoldeb, ac eraill yn byw yn lleol. Ar y diwrnod, daeth 31 pâr a’u plant, a rhai o’u rhieni, i’r eglwys, a chafodd cael eu croesawu gan yr 17 o addolwyr rheolaidd yn yr eglwys wledig fechan hon.
Cafwyd gwasanaeth Cymun plwyf arferol, ond cafwyd rhai adegau arbennig a alluogodd y cyplau a’r addolwyr rheolaidd i deimlo cysylltiad â’r lle, â’i gilydd ac â phwysigrwydd gweinidogaeth priodasau. Mae’r syniadau hyn wedi’u rhannu yma, fel y gall unrhyw eglwys neu blwyf eu defnyddio mewn gwasanaeth i ddathlu eu gweinidogaeth priodasau, boed gyda thri chwpl neu 30!
Gweddïau addas i’r teulu
Ysgrifennwyd y gweddïau i ganolbwyntio ar fywyd teuluol ac ar berthnasoedd. Ffordd syml o wneud hyn yw gwahodd pawb i ddychmygu cyfres o gylchoedd neu i’w tynnu ar eu llaw. Yna, defnyddiwch y canlynol fel awgrym ar gyfer themâu ym mhob adran:
- Tynnwch gylch o amgylch yr holl fyd. Dychmygwch gariad Duw yn dal y byd, a’r cariad sy’n dal cymunedau a theuluoedd ynghyd. Gweddïwch yn arbennig dros lefydd lle mae pobl yn dyheu am heddwch a diogelwch i fod gyda’i gilydd, fel y gallan nhw adnabod gofal cariadlon Duw.
- Tynnwch gylch o amgylch ein cenedl. Gweddïwch dros yr holl sefydliadau sy’n helpu a chefnogi teuluoedd drwy amseroedd da ac anodd, a thros arweinwyr cenedlaethol a chymunedol yn eu byd teuluol a’r polisïau maen nhw’n dylanwadu arnyn nhw.
- Tynnwch gylch o amgylch eich tref. Gweddïwch y bydd y gymuned yn adnabod cariad Duw, gan gofio am waith eglwysi ac eraill, gweddïwch dros leoliadau priodas a phawb sydd wedi bod yn briod ers amser maith, yn cynllunio perthynas newydd, a’r rhai sydd mewn trafferthion.
- Rhowch smotyn yng nghanol y cylchoedd hyn. Gweddïwch drosoch eich hun a’ch perthnasoedd agosaf, gan weddïo y byddwch chi’n parhau i dyfu’n gryf mewn cariad tuag at eraill a Duw.
Cymundeb
Gwahoddwch bawb i ddod ymlaen, ac yn ystod y cymun cynigiwch fendith i bob pâr sy’n bwriadu priodi.
Y Gollyngdod
O fynychu ffeiriau priodas cenedlaethol gwyddom fod cyplau’n gwerthfawrogi gweddïau eu heglwys, yn enwedig y gannwyll a roddir gyda’r weddi hon. Beth am brynu rhai o’r rhain, neu wneud eich rhai eich hun:
- Yn gyntaf, bendithiwch fasged sy’n cynnwys canhwyllau arbennig y cyplau, a basged gyda chanhwyllau cyffredin bychain (tealights).
- Rhowch gannwyll arbennig i bob pâr sy’n mynychu i fynd adref gyda nhw i’w hatgoffa am y gweddïau sy’n cael eu cynnig iddyn nhw, ac i’w hannog i weddïo eu hunain yn y dyddiau sydd i ddod.
- Yna, cynigiwch un o’r canhwyllau bach i bob aelod o’r gynulleidfa reolaidd fynd adref gyda nhw, gan eu hannog i’w goleuo ac ymrwymo i weddïo dros y rhai sy’n priodi yn yr eglwys yn y flwyddyn nesaf.
Y Parch Ddr Sandra Millar