Pwysigrwydd cysylltiadau cyntaf
Bu astudiaeth ddiweddar gan Gyngor Archesgobion yr Eglwys yn Lloegr yn ymchwilio i geisio deall sut mae cyplau’n teimlo pan maen nhw’n gofyn a allan nhw briodi mewn eglwys. Gyda’r ymateb cywir, gallai’r foment allweddol hon fod yn ddechrau cysylltiad tymor hir. Darllenwch ymlaen i weld pa bethau oedd yn poeni cyplau, a beth ellir ei wneud i wella eu profiad o’r eglwys.
Roedd yr ymchwilwyr am ddeall pam mae cyplau’n dal i ddewis priodi mewn eglwys, mewn diwylliant nad yw hynny’n ddisgwyliedig bellach, a pham mae llawer yn dewis peidio. Wrth ymchwilio i feddyliau a theimladau cyplau am yr eglwys cyn iddyn nhw holi am gynnal priodas, fe ddysgwyd ambell beth newydd a diddorol.
Hefyd, dangosodd yr ymchwil sut mae ymateb y ficer i ymholiad cychwynnol am briodas yn gallu ennill neu golli diddordeb pâr, a sut mae’n gallu effeithio ar eu barn hirdymor am yr eglwys er gwell neu er gwaeth.
Pan mae pâr yn cysylltu am gynnal priodas i ddechrau, maen nhw’n debygol o:
- Deimlo’n nerfus gan eu bod yn teimlo’n rhagrithiol yn gofyn i’r eglwys am gael priodi yno. Gall y teimlad hwn fod yn seiliedig ar ba mor aml maen nhw’n mynd i’r eglwys, neu pa mor ‘grefyddol’ ydyn nhw yn eu barn nhw.
- Meddwl y byddan nhw’n cael eu barnu ar a ydyn nhw’n ‘bodloni’ safonau priodas eglwys. Os ydyn nhw’n byw gyda’i gilydd neu fod ganddyn nhw blant, efallai y byddan nhw’n credu y bydd hyn yn mynd yn eu herbyn.
- Credu mai’r ficer sy’n cael gwneud yr holl benderfyniadau o ran ydyn nhw’n cael priodi yn yr eglwys ai peidio.
- Er gwaetha’r ofnau hyn, byddai llawer o gyplau wrth eu bodd yn priodi mewn eglwys
- Cafodd y prif resymau dros eisiau priodi mewn eglwys eu mynegi mewn sawl ffordd wahanol ond yn y bôn roedden nhw’n ymwneud ag un peth – roedden nhw am i Dduw fod yno gyda nhw ar yr adeg roedden nhw’n priodi.
DS: I baratoi eu hunain, efallai y bydd cyplau yn edrych ar wefan eich eglwys cyn ffonio. Fe fyddan nhw’n cael argraff o sut le yw’r eglwys a’i phobl o’r wybodaeth ar y wefan, a naws yr ysgrifennu. Mae’n syniad da adolygu gwefan y plwyf, ac edrych arni o safbwynt dieithryn. Dylech sicrhau bod y manylion cysylltu yn glir o leiaf (ac yn ddelfrydol, dylech gael llun o’r ficer yn gwenu gydag anerchiad i groesawu pobl).
Bydd y rhan fwyaf o gyplau’n cysylltu dros y ffôn. Felly, mae angen i bwy bynnag sy’n ateb y ffôn allu leddfu’r pryderon hynny a dangos cynhesrwydd a chroeso’r eglwys. Gellir gwneud hyn drwy:
- Ateb yr ymholiad yn gyflym. Os yw pâr yn gadael neges, ffoniwch nhw cyn gynted â phosibl. Bydd aros yn eu gwneud yn fwy pryderus. Bydd y pâr yn teimlo eu bod yn cael eu gwrthod os nad yw eu galwad yn cael ei hateb o gwbl – dangosodd ymchwil nad yw 1 o bob 4 ficer yn ffonio’n ôl! Os yw’r pâr yn ddigon dewr i ffonio eto, fe fyddan nhw’n fwy pryderus nag oedden nhw cynt.
- Bod yn gyfeillgar a dangos diddordeb ynddyn nhw a’u stori cyn trafod gofynion cyfreithiol. Mae’n gwneud i’r pâr ymlacio’n syth. Gofynnwch sut gwnaethon nhw gyfarfod ac ers faint maen nhw wedi bod gyda’i gilydd.
- Dangos brwdfrydedd am briodas a gweinyddu priodasau drwy ddweud rhywbeth fel: ‘Llongyfarchiadau ar eich dyweddïad! Rydw i mor falch eich bod chi’n meddwl priodi mewn eglwys.’
- Dweud ‘Mae croeso i chi briodi yn yr eglwys hon’ wrth y pâr os yw’n hollol amlwg y gallan nhw wneud hynny.
- Os nad yw pethau mor hawdd, arhoswch yn gadarnhaol i osgoi teimladau o wrthod. Trefnwch gyfarfod i drafod hyn ymhellach lle bo’n bosibl, neu ewch ati i gynnig eu helpu i weld a allan nhw briodi mewn eglwys arall, neu i’w helpu i ystyried opsiynau eraill ar gyfer gwasanaeth.
Symud pâr o fod yn bryderus ac ofnus i gael teimladau o ryddhad a chyffro yw’r cam cyntaf ar y ffordd i gyfeillgarwch a fydd yn para. Bydd angen i weinyddwyr ac eraill a all ateb ffôn y ficerdy neu swyddfa’r eglwys wybod hyn a chael eu hyfforddi i ymateb yn y ffordd gywir.