Cadw mewn cysylltiad ar ôl y diwrnod mawr
Mae priodasau yn gyfle anhygoel i rannu amser arbennig ym mywyd pâr. Gall fod yn adeg allweddol yn eu taith ffydd yn ogystal â’u taith mewn bywyd. Felly mae’n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad wedyn.
Mae ymchwil wedi dod i’r casgliad bod cyplau a oedd yn hapus gyda diwrnod eu priodas yn hapus i glywed gan yr eglwys wedyn, ac yn siomedig yn aml os nad ydyn nhw’n clywed yr un gair.
Bydd cadw mewn cysylltiad yn helpu i gadw ‘teimlad cynnes’ diwrnod eu priodas yn fyw, fel na fydd y cyfleoedd ar gyfer gwahoddiad neu sgwrs bellach yn cael eu hanwybyddu. Gall eglwys y briodas ac eglwys y gostegion (os ydyn nhw’n wahanol) gadw mewn cysylltiad. Dyma ddwy ffordd syml o wneud hyn.
Anfon llongyfarchiadau
ENSURE C IN W VERSION IS SHOWN
Anfonwch gerdyn llongyfarch yn fuan ar ôl diwrnod y briodas, efallai i fod yno pan fyddan nhw’n dychwelyd o’u mis mêl. Mae’n bwysig bod y ficer yn llofnodi’r cerdyn, i ddangos ei fod yn hapus dros y pâr ac am gadw mewn cysylltiad.
Pen-blwydd priodas hapus
ENSURE C IN W VERSION IS SHOWN
Cardiau pen-blwydd priodas (gweler y llun) yw’r cerdyn cyfarch mwyaf annisgwyl yn yr adnoddau Priodasol ac am y rheswm hwn efallai mai’r cerdyn hwn gaiff yr effaith fwyaf.
- Gan fod y rhan fwyaf o briodasau yn digwydd ar ddydd Sadwrn, mae’r pen-blwydd priodas cyntaf yn debygol o fod ar ddydd Sul – cyfle i wahodd y pâr yn ôl i’r eglwys lle y priodon nhw a chlywed gweddïau pen-blwydd priodas iddyn nhw.
- Os ydych chi’n gweld y pâr yn yr eglwys, gwnewch bwynt o siarad â nhw. Gallwch eu gwahodd i aros am baned wedyn os yw’r eglwys yn cynnig hynny.
- Os oes yna ddigwyddiadau ar y gweill yn yr eglwys, neu wasanaeth arbennig, gofynnwch a hoffen nhw ddod eto.
Nodiadau atgoffa
Gall anfon yr holl gardiau cyfarch priodas at y cyplau cywir ar yr adeg gywir fod yn dasg a hanner, yn enwedig i eglwysi sy’n cynnal llawer o briodasau bob blwyddyn. Beth am ofyn i aelod o’r eglwys fod yn gyfrifol am y weinidogaeth bwysig ac arbennig hon? Mae’n debygol iawn y byddai rhywun yn croesawu hyn ac yn ei weld fel gwaith ymarferol iawn sy’n rhoi llawer o foddhad.