Cadw mewn cysylltiad rhwng y cyfarfod cyntaf a’r briodas ei hun
Efallai y bydd yna amser hir rhwng gwneud y trefniadau a diwrnod y briodas – dros ddwy flynedd weithiau. Bydd y gwesty, y siop flodau a’r ffotograffydd yn cysylltu â’r pâr. Sut gall yr eglwys gadw mewn cysylltiad hefyd?
Pan fydd pâr wedi archebu gwledd eu priodas, bydd y rhan fwyaf o leoliadau yn cysylltu â nhw adeg y Nadolig, dydd Sant Ffolant ac ar achlysuron arbennig eraill i’w gwahodd i ddigwyddiadau. Bydd lleoliadau da hyd yn oed yn anfon cardiau ar ben-blwyddi a dyddiadau allweddol eraill! Mae’r briodferch wrthi fel lladd nadredd yn trefnu pethau, a gall sylweddoli bod yr eglwys yn ddistaw iawn o ran pryd a sut bydd gwaith cynllunio’r gwasanaeth yn dechrau beri llawer o straen.
Mae yna gyfleoedd di-ri i ddangos gofal a chroeso yn ystod yr amser hwn o aros. Dyma ddwy enghraifft:
Gostegion
Mae clywed eu gostegion yn cael eu darllen yn gallu bod yn brofiad arbennig iawn i bâr, yn enwedig os yw eu henwau’n cael eu cynnwys yn y gweddïau hefyd. Gwahoddwch gyplau i glywed eu gostegion yn cael eu darllen drwy ddefnyddio’r cerdyn gwahoddiad i ostegion (llun ar y chwith).
Mae’n gyfle arall i groesawu pâr i’r eglwys, waeth a ydyn nhw’n priodi yno ai peidio. Yn wir, bydd annog cyplau i ddod i nabod eu heglwys leol, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n priodi yno, yn eu helpu i ddatblygu cysylltiad mwy tymor hir â’r eglwys. Os yw’r pâr yn dod i glywed eu gostegion, cadwch lygad amdanyn nhw, croesawch nhw a gofynnwch sut mae cynlluniau’r briodas yn dod ymlaen. Fe fyddan nhw’n gwerthfawrogi’r amser y mae’r ficer yn ei gymryd i ddod i’w hadnabod.
Os mai dyma eglwys leol y pâr, maen nhw’n fwy tebygol o ddod eto os ydyn nhw’n dechrau meithrin cysylltiadau ag eraill fel nhw yn y gynulleidfa. Anogwch aelodau cyfeillgar o’r eglwys i siarad â’r pâr a’u gwahodd i aros am baned wedyn. Gall dod i adnabod pobl yn yr eglwys wneud diwrnod y briodas yn fwy ystyrlon hefyd.
Cynllunio’r gwasanaeth
Dangosodd ymchwil fod cyplau’n hoffi gwneud eu gwasanaeth yn arbennig ac yn bersonol iddyn nhw, gan adlewyrchu eu stori. Bydd eu dewis nhw o gerddoriaeth, emynau a darlleniadau yn helpu i greu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’r pâr.
Bydd y pâr yn fwy tebygol o ddychwelyd i’r eglwys ar ôl y briodas os yw’r gwasanaeth yn cynnwys cyffyrddiadau personol, oherwydd fe fyddan nhw’n teimlo bod yr eglwys yn gofalu amdanyn nhw.
Ym mwyafrif yr achosion, mae cyplau’n gwneud dewisiadau traddodiadol a syml, ac anaml y gwelir dewisiadau rhyfedd iawn. Ond byddwch mor hyblyg ag y gallwch chi o fewn cyfraith eglwysig.
Helpwch y cyplau i ddechrau meddwl am emynau a darlleniadau. Efallai y bydd angen atgoffa rhai cyplau am donau a theitlau a oedd yn gyfarwydd iddyn nhw yn yr ysgol ond sydd o bosib wedi mynd yn angof erbyn hyn, felly mae’n dda eu cael wrth law!
Cofiwch ymateb yn gadarnhaol a siaradwch â nhw am ffyrdd eraill y gallwch eu helpu i bersonoleiddio eu gwasanaeth, gyda cherddoriaeth wrth ddod i mewn i’r eglwys a gadael, darlleniadau eraill a ffyrdd o gynnwys teulu a ffrindiau.