Gwneud y gorau o’r diwrnod ei hun
Mae pob pâr eisiau cofio diwrnod eu priodas fel un arbennig ac unigryw. Mae priodi mewn eglwys yn gwneud y diwrnod yn arbennig iawn mewn cymaint o wahanol ffyrdd – ac mae’n llawer mwy na golwg y lle’n unig.
Efallai ei bod hi’n ymddangos bod cyplau’n dewis priodi mewn eglwys am fod yr adeilad yn hardd. Efallai fod hynny’n wir i ryw raddau, ond mae ymchwil yn dangos bod yna ddifrifoldeb ysbrydol yn sail i unrhyw ddymuniad arwynebol am gefndir braf ar gyfer y lluniau. Mae cyplau’n dod i gael priodas mewn eglwys oherwydd y nodweddion unigryw mae’n eu cynnig:
- Y lleoliad - mae awyrgylch hynafol, sanctaidd ac ysbrydol eglwys yn rhoi urddas i’r achlysur. Mae cyplau am gael lle arbennig ar gyfer diwrnod mor arbennig. Mae’n fwy na sut mae’r lle’n edrych.
- Yr addunedau – maen nhw’n unigryw, yn cynnwys Duw ac wedi aros yn ddigyfnewid am ganrifoedd. Dyna pam mae llawer o gyplau’n dewis priodas eglwys.
- Y ficer - mae sylw a chymorth personol y ficer yn diffinio priodas eglwys. Efallai y bydd ef neu hi yn dod i adnabod y pâr yn well dros y blynyddoedd ar ôl y briodas ac yn gwylio eu teulu’n tyfu. Efallai y bydd yn bedyddio eu plant. Mae’r berthynas â’r ficer yn bwysig iawn i’r pâr, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at y briodas ac ar y diwrnod ei hun.
- Yno bob amser – ni all unrhyw leoliad priodas arall addo bod ar gael i’r pâr ymhell ar ôl diwrnod y briodas.
O gofio hyn, gall gwneud popeth allwch chi o fewn terfynau cyfreithiol i wneud diwrnod priodas y pâr yn un i’w gofio, yn union fel roedden nhw wedi’i obeithio, yn cael effaith barhaol ar dwf yr eglwys.
- Mae ymchwil yn dangos bod gwasanaeth personol, croeso cynnes a dangos diddordeb yn y pâr fel pobl yn dylanwadu’n gryf ar a fyddan nhw’n dychwelyd i’r eglwys ar ôl y briodas.
- Yn ogystal â’u helpu i ddewis cerddoriaeth, emynau a darlleniadau, dylech geisio dod i wybod beth yw eu diddordebau, hobïau, y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cyflwynwch bregeth sy’n adlewyrchu rhai o’r pethau hynny ac fe fyddan nhw wrth eu bodd.
- Mae’n bwysig eich bod chi’n trin gwahoddedigion y briodas yn dda. Cadwch y cyhoeddiadau ar ddechrau’r briodas yn gadarnhaol ac yn gryno (ac, os yw hynny’n bosibl, gwnewch nhw cyn i’r briodferch gyrraedd!). Yn lle darllen rhestr o reolau ‘Peidiwch â’, dywedwch wrth y gwahoddedigion: ‘Gallwch… daflu conffeti/dynnu lluniau/droi eich ffonau yn ôl ymlaen ar ôl y gwasanaeth’.
- Mae cerdyn y gwahoddedigion yn eu hannog i fynd â chopi adre o’r adduned y mae pawb yn ei wneud yn ystod y gwasanaeth priodas i gefnogi’r pâr gydol eu priodas. Soniwch am y cerdyn ar yr adeg berthnasol yn y Datganiadau, neu dosbarthwch ef wrth i’r gwahoddedigion adael. Maen nhw’n debygol o’i adael ar ôl os byddwch chi’n ei roi yn y seddi.
Cofnodi’r atgofion
Mae ffilmio a thynnu lluniau ar achlysuron arbennig a rhannu’r eiliadau arbennig hyn â theulu ehangach a ffrindiau yn ail natur i gyplau ifanc. Yn amlach na pheidio, fe fyddan nhw’n gwneud hyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ond cofiwch ystyried canllawiau Diogelu, yn enwedig os oes plant yn bresennol.
Er mai chi sydd i benderfynu ar y rheolau ynghylch tynnu lluniau a ffilmio, bydd y pâr a’u gwahoddedigion yn teimlo mwy o groeso a gofal os gallwch chi fod mor hyblyg â phosibl o fewn paramedrau penodol. Mae hefyd yn werth cofio y bydd y pâr yn gwylio’r ffilm o’u priodas dro ar ôl tro dros y blynyddoedd. Mae’n ffordd wych iddyn nhw ail-fyw’r diwrnod, yn cynnwys yr addunedau a wnaed i’w gilydd.
Felly, dylech groesawu eu ffotograffydd a’r person fideo hefyd. Mae ymarfer y briodas yn amser delfrydol i gytuno ar yr adegau tynnu lluniau a ffilmio y mae pawb yn hapus â nhw.