Cyfarfod y pâr am y tro cyntaf
Mae sicrhau cynhesrwydd a chyfeillgarwch yn bwysig hyd yn oed wrth gasglu gwybodaeth gyfreithiol hanfodol. Darllenwch fwy am adnoddau sy’n gwneud hyn yn haws a sut mae cyswllt â’r ficer yn gwneud gwahaniaeth yn y camau cynllunio cynnar hyn.
Mae’r cyfarfod cyntaf rhwng pâr a’r eglwys yn bwysig iawn. Yn ôl yr ymchwil ar gyfer y Prosiect Priodasau, mae’r cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf yn aml yn achosi pryder, ac er bod clerigion yn gwybod eu bod yn gyfeillgar ac yn hynaws, efallai nad yw cyplau yn deall hyn nac yn teimlo’r un fath!
Mae’r ficer yn gwneud gwahaniaeth
Mae cyplau’n gweld y ficer fel cynrychiolydd yr eglwys mewn iwnifform. Mae ymateb personol a rhyngweithio â’r ficer yn cael ei gymryd fel ymateb yr eglwys yn gyffredinol. Felly, gofalwch mai’r ficer sy’n cyfarfod y pâr wyneb yn wyneb i ddechrau. Yn ôl yr ymchwil, mae pobl yn fwy tebygol o ddychwelyd pan maen nhw’n dod i’r eglwys a chyfarfod eraill yn y gynulleidfa sydd mewn amgylchiadau tebyg.
Gartref neu rywle arall?
Gall eistedd mewn ystafell yn llawn llyfrau diwinyddol ddychryn rhai cyplau, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi bod i eglwys rhyw lawer. Felly, os ydych chi’n cyfarfod yn y ficerdy, dewiswch lolfa gartrefol os oes modd. Fodd bynnag, gallwch ymweld â nhw yn eu cartref, ond cofiwch y gall hyn achosi pryder hefyd er y gall fod yn llawer mwy anffurfiol. Efallai y bydd y pâr yn treulio llawer o amser yn tacluso, glanhau a phrynu’r lluniaeth priodol i greu argraff dda!
Dechrau gyda’r hanfodion
Gall casglu’r data hanfodol deimlo fel proses ‘gwneud cais’ sych i’r pâr, felly gwnewch eich gorau i ofyn cwestiynau eraill sy’n ysgafnach rhag i’r cyfan deimlo’n rhy gyfreithiol ac oer.
Rhodd arbennig
Mae cyplau’n gwerthfawrogi gwybodaeth am emynau, darlleniadau a syniadau ar gyfer lluniau a ffilmio. Mae’r Pecyn Croeso Priodas yn darparu taflenni ffeithiau ar hyn a llawer mwy. Fe’i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer y cyfarfod cyntaf i’w roi’n bersonol i’r pâr fel rhodd. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan gydweithwyr sydd wedi defnyddio’r pecynnau. Mae’n debyg bod y briodferch yn arbennig yn hoff o’r pecyn!