Mae cyswllt â’r ficer yn bwysig iawn i gyplau - gan mai’r ficer fydd yn cynnal y gwasanaeth, maen nhw am ddod i’w nabod ef neu hi wrth iddyn nhw gynllunio’r briodas, felly dylai arwain neu o leiaf fod yn bresennol mewn digwyddiadau sy’n paratoi cyplau ar gyfer eu priodas.
Mae addunedau unigryw priodas eglwys yn ddeniadol iawn i gyplau ac yn un o’r prif resymau pam maen nhw eisiau priodi mewn eglwys.
Yn ddelfrydol, bydd cyplau am gael un sesiwn lle gallan nhw gael amser i feddwl am yr addunedau hyn.
Yn ôl gwaith ymchwil, nid yw cyplau na chlerigion yn hoffi’r geiriau ‘paratoi at briodas’. Mae’r cerdyn adnoddau (uchod) yn gwahodd pâr i dreulio amser gyda’r ficer i siarad am bethau mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.