Lluniau o’r pâr ar y diwrnod maen nhw’n archebu eu priodas
Rwy’n tynnu llun o’r pâr pan maen nhw wedi llofnodi eu ffurflen gais am ostegion. Rwy’n gosod y llun ar y ffurflen ac yn ei e-bostio at y pâr. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw gofnod o’r diwrnod y gwnaethon nhw archebu eu priodas – maen nhw’n hoffi hynny ac mae’n rhan o’n croeso ni.
Mae’n ein helpu ni hefyd i gofio pwy ydyn nhw, ac yn helpu clerigion eraill yn y tîm pan mae rhywun arall yn cymryd y briodas. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r llun yn unrhyw le arall heb ganiatâd y pâr.
Jane Nattrass