Gweddi yn dilyn priodas sifil
Rwyf wedi defnyddio’r weddi hon ar gyfer bendithio priodas mewn gwledd briodas sifil. Cyn belled â’i bod yn cael ei chadw ar wahân i’r seremoni, gellir ei defnyddio fel hyn, neu mewn unrhyw achlysur priodasol yn wir.
Boed i Dduw cariad eich amgylchynu; Boed i Dduw heddwch drigo o’ch mewn; Boed i Dduw llawenydd ysbrydoli eich dyddiau; A boed i chi dyfu mewn cariad, heddwch a llawenydd Wrth i chi rannu’r daith hon. Wrth i’ch cariad dyfu Boed i chi fod yn ymwybodol o gariad, heddwch a llawenydd Duw Yn eich cynnal a’ch cadw Ynghyd, ble bynnag y bo’ch, Y dydd hwn ac am byth, Amen.Y Parchedig Ddoctor Sandra Millar